Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i werth tua £40,000 o nwyddau gael eu dwyn o siop emwaith yn Ninbych-y-Pysgod ddechrau’r wythnos hon.

Fe gafodd plismyn eu galw yn dilyn adroddiadau am ladrad yn siop emwaith Rembrandts ar Sgwâr Tudur y dre’ am tua 8:40yb ddydd Mawrth (Mai 1).

Fe gafodd gwerth tua £40,000 o emwaith ac arian eu dwyn o’r siop.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.