Mae canwr a gweithiwr cymunedol yn galw ar  Gyngor Gwynedd i “bwyllo” cyn pleidlais a allai gau pob un o glybiau ieuenctid y sir.

Mi fydd protest yn cael ei chynnal y tu allan i adeiladau’r Cyngor yng Nghaernarfon heddiw (dydd Iau, Mai 3), cyn i gynghorwyr bleidleisio ar dynged y gwasanaeth ieuenctid.

Yn ôl Ceri Cunnington, sy’n gweithio i Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog, ac a fydd yn cymryd rhan yn y brotest, mae angen i gynghorwyr beidio â gwrando ar swyddogion sydd wedi edrych ar ddim ond “spread sheets a ffigyrau”.

“Ma’ be’ mae Cyngor Gwynedd yn meddwl gneud yn canoli pob dim, i ryw raddau, trwy gyflogi mwy o weithwyr llawn amser wedi’u lleoli mewn pencadlys yng Nghaernarfon i ddod i weithio bob hyn a hyn i gymunedau cefn gwlad,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n ffordd ben-i-waered o edrych ar ddatblygu cymuned a chymunedau ar draws Gwynedd.”

Roedd disgwyl i ddisgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen gyflwyno deiseb gyda bron 6,000 o lofnodion arni i gynghorwyr, ond mae golwg360 yn deall bod y Cyngor wedi gwrthod cais am ganiatâd gan y prifathro i’w rhyddhau o’u gwersi.

 

Agor deialog

Er bod y canwr yn cydnabod bod y Cyngor “dan bwysau”, a bod “angan newid” i wasanaeth ieuenctid y sir, mae’n dweud bod angen cadw’r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd er mwyn rhoi cyfle i “drafodaeth” gael ei chynnal o fewn y cymunedau.

“Be rydan ni’n gofyn am ydy oedi er mwyn iddyn nhw drafod gyda ni… mae angen y drafodaeth ehangach, ac nid jyst mewn stafall yng Nghaernarfon,” meddai.

Ond mae’n ychwanegu nad rhoi “pwysau” ar y Cyngor yw nod y brotest heddiw, ond yn hytrach, “agor y ddeialog”.

“Rydan ni i gyd eisiau’r un peth yn y pen draw, y gorau i’n cymunedau. Mae Cyngor Gwynedd yn meddwl be’ ydan nhw’n ei wneud yn iawn, ac rydan ar yr ochr gymunedol yn meddwl be ydan ni’n ei wneud yn iawn.

“Rydan ni jyst eisio cwrdd yn y canol.”