Mae Alan Llwyd yn dweud bod ei gyfrol newydd o gerddi yn “edrych yn ôl” ar ei fywyd, gydag un gerdd yn trafod pwy oedd ei dad go iawn.
Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni, mae Cyrraedd a Cherddi Eraill yn dynodi’r digwyddiad “arwyddocaol” hwnnw, meddai.
Ac er ei fod yn pwysleisio nad “hunangofiant llawn” yw hi, mae’n barod i’w disgrifio yn “hunangofiant llenyddol neu farddonol”.
“Pan y’ch chi’n cyrraedd oedran arwyddocaol fel hwn, ry’ch chi’n dueddol o edrych yn ôl,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n edrych yn ôl ar agweddau gwahanol, profiadau gwahanol a digwyddiadau yn fy mywyd i, ac mae’r rheiny wedyn yn creu rhyw fath o undod.”
Dirgelwch y tad
Ymhlith y casgliad sy’n cynnwys dros 100 o gerddi newydd, mae gan Alan Llwyd un soned “eitha’ dadlennol”, yn ôl ei ddisgrifiad ei hun, sy’n holi pwy oedd ei dad go iawn.
“Dw i ddim yn gwybod pwy oedd fy nhad biolegol,” meddai’r bardd a gafodd ei fagu yn ardaloedd Blaenau Ffestiniog a Phen Llŷn.
“Ac erbyn diwedd bywyd, mae gen i ŵyr ac wyres, a dy’n nhw ddim yn gwybod pwy maen nhw’n perthyn i ar fy ochr i, achos dw i ddim yn gwybod fy hun.
“Fe wnes i holi’n ddiweddar, ac fe glywes i enwi fy nhad. Ond does gen i ddim prawf DNA o’r peth, felly dw i ddim yn ei enwi fo [yn y gerdd].
“Dw i’n gofyn i Feirionnydd ddadlennu’r gyfrinach – dyna be dw i’n ei wneud yn y soned – i ddweud yn blwmp ac yn blaen pwy oedd fy nhad…”
‘Ynys yr Addewid’
O ran arwyddocâd y gair ‘cyrraedd’ yn y teitl wedyn, mae Alan Llwyd, sydd bellach yn byw yn Nhreforys, yn dweud ei fod yn cyfeirio at ei oedran, sy’n cael ei ddisgrifio ganddo yn ‘Ynys yr Addewid’.
“Dw i’n dychmygu bod cyrraedd yr oedran yma fel cyrraedd ynys, ac mae yna ddelweddau o fordeithiau, ac mae’r môr yn bresenoldeb yn y cerddi i gyd.
“Yr hyn dw i’n ei wneud yw dychmygu fy mod i ar yr ynys, a dim ond pobol 70 oed yn unig sy’n cael dod i mewn i’r ynys yma…”
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys marwnadau, fel y gerdd ‘Cofio’r rhai a fu ar y fordaith’, sy’n coffáu cyfeillion y bardd na wnaeth cyrraedd y 70 oed…
Fe fydd Cyrraedd a Cherddi Eraill yn cael ei lansio yng ngŵyl Bedwen Lyfrau 2018 yng Nghaerfyrddin ar Fai 12.
Alan Llwyd hefyd fydd yn derbyn Gwobr Arbennig yr ŵyl yn ystod yr un penwythnos.