Mae priffordd yr A470 wedi cau i gyfeiriad y de, wedi i lori droi drosodd yn ardal Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng Pentrebach ac Abercynon toc wedi 2yp heddiw.

Yn ol Heddlu De Cymru, chafodd neb ei anafu, ac mae’r gwasanaethau brys yn y fan a’r lle ar hyn o bryd yn ceisio symud y lori.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi’u galw yno i helpu.

Mae’r heddlu’n awgrymu y bydd y ffordd wedi’i chau am beth amser brynhawn Sadwrn (Ebrill 28).