Mae grŵp o aelodau a chyn-aelodau Cangen Plaid Cymru Tref Llanelli wedi cyflwyno cwyn swyddogol yn erbyn uwch swyddogion y blaid.
Honiad y grŵp – sy’n destun cwynion ac ymchwiliad disgyblu eu hunain – yw bod Arweinydd y Blaid, Leanne Wood; y Cadeirydd, Alun Ffred Jones; a’r Prif Weithredwr, Gareth Clubb wedi ymddwyn mewn modd sy’n achosi “dadrith”.
“Mae’r driniaeth ddideimlad [o’r gangen] wedi arwain at ddadrith llwyr o fewn y Blaid a’i arweinyddiaeth,” meddai’r grŵp yn eu llythyr cwyn.
Blwyddyn o ffraeo
Daw’r gŵyn ddiweddaraf yn benllanw ar flwyddyn gron o ffraeo rhwng y gangen yn Llanelli a’r Blaid ganolog.
Wrth wraidd y ffrae mae Mari Arthur, yr ymgeisydd a gafodd ei dewis i sefyll tros y Blaid yn etholaeth Llanelli ar gyfer Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Mae’r grŵp sy’n cwyno yn honni bod Mari Arthur wedi ei “gorfodi” yn ymgeisydd arnyn nhw – mi roedden nhw am weld cynghorydd tref o’r enw Sean Rees yn sefyll.
Yn eu cwyn, mae’r gangen yn cyhuddo Leanne Wood o fod wedi dangos “ffafriaeth digywilydd” tuag at Mari Arthur ac o “ddychryn” y gangen fel eu bod yn ei derbyn yn ymgeisydd.
Y stori hyd yma…
Wedi methiant Mari Arthur yn yr Etholiad Cyffredinol, mae’r grŵp yn honni bod y gangen wedi cyflwyno cwyn swyddogol am ymddygiad yr ymgeisydd hefyd.
Rhai misoedd wedi hynny, ym mis Hydref, cafodd Meilyr Hughes a Gwyn Hopkins eu gwahardd am gyfnod amhenodol. Fe ymddiswyddodd yr ail aelod yn swyddogol yn ddiweddarach.
Ac yna, ddechrau’r flwyddyn eleni, cafodd y gangen gyfan ei “gwahardd dros dro” am “dorri rheolau sefydlog y blaid”, yn ôl Plaid Cymru.
Bellach mae’r grŵp yn honni bod pum aelod/cyn-aelod yn gorfod mynd i Gaerdydd i wynebu panel disgyblu.
Ymateb Plaid Cymru yn ganolog
Nid yw Plaid Cymru am wneud unrhyw sylw ar faterion disgyblu mewnol cyfredol, meddai llefarydd.