Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i garcharor sydd wedi dianc o garchar Prescoed ym Mrynbuga, Sir Fynwy, ddoe.
Fe gafodd Craig Parsons ei garcharu yn 2017 am ladrata.
Mae yn ddyn gwyn, 40 oed, pum troedfedd a phedair modfedd o daldra ac o faint corff canolig gyda gwallt brown, byr a brown yw lliw ei lygaid hefyd.
Pan welwyd y lleidr am y tro olaf roedd yn gwisgo top llwyd gyda sgrifen coch arno, trowsus tracsiwt du a threinyrs Nike du.
Yn ôl Heddlu Gwent fe allai Craig Parsons fod yn beryglus ac mae ganddo gysylltiadau yn Nhorfaen a Chasnewydd.
Os oes unrhyw un wedi gweld y lleidr neu yn gwybod rhywbeth am ei leoliad, mae’r heddlu am i chi ffonio 101 a dyfynnu 534 26/4/18.