Roedd Catrin Finch yn perfformio ym Machynlleth neithiwr (nos Iau, Ebrill 26), a hynny er gwaetha’r ffaith ei bod ar ganol triniaeth gemotherapi at ganser y fron.
“Mae o’n anodd, mae’n uffernol o anodd,” meddai’r delynores.
“Ond rywsut, mae’r syniad o fynd rywle, a gwneud cyngerdd yn fy annog i ymlaen. Dw i ddim yn berson sy’n eistedd o gwmpas; dw i byth wedi bod.
“Efo salwch fel yma… rydych chi’n gorfod cael eich pen yn y lle iawn, a bod yn gadarnhaol. Mae o’n helpu. Dw i wir yn credu yn hynna, dw i’n trio cadw fy hun yn y lle iawn.”
Rhannu
Erbyn hyn mae wedi dechrau dygymod yn well â’r salwch, meddai, ac yn barod i rannu manylion personol am y driniaeth gyda’r byd.
“Ar y cychwyn, ro’n i jyst eisie rhoi pen lawr a’i wneud o ar fy mhen fy hunan, do’n i ddim eisie sôn amdano, a dim lot o ffws,” meddai.
“Erbyn hyn, yng nghanol y peth, dw i’n ffeindio fy hunan yn fwy agored iddo fo.
“Dw i’n meddwl y gwna i ddechrau postio fideos bach ar y cyfryngau cymdeithasol achos mae o’n bwysig i bobol eraill weld ei fod o’n ocê.
“Dw i’n gwneud yn iawn, actually. R’ych chi’n clywed lot o straeon uffernol am gemotherapi, ond eto dw i’n gwneud yn ocê efo fo.”
Colli gwallt
Mae yna sgîl effeithiau i’r driniaeth “sydd ddim yn neis”, meddai Catrin Finch – fel dihuno un bore a gweld llawer o’i gwallt ar y gobennydd.
“Fe ges i gawod, ac roedd yn dod allan yn fy llaw i,” meddai. “Roedd hwnna’n distressing.
“Mi wnaethon ni benderfyniad i fi ei siafio fo. D’ych chi ddim yn ei weld o’n digwydd wedyn.”
“R’ych chi’n clywed straeon uffernol am yr NHS ond, honest to God, maen nhw wedi bod yn anhygoel.”
[Mwy gan Catrin Finch yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg, a holl hanes ei halbwm a’i thaith gyda’r chwaraewr kora Seckou Keita o Senegal.]