Mae cyn-newyddiadurwr The Welsh Mirror wedi galw ar Carwyn Jones i enwi dwy ddynes ddirgel sydd wedi achosi “niwed” i’r diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, a’r Prif Weinidog ei hun.

Mewn neges amwys ar wefan Facebook, mae Paul Starling yn cyhuddo Carwyn Jones o “amddiffyn” y menywod dirgel, ac o’u blaenoriaethu uwchlaw ei deulu.

Ac mae’n nodi bod gan y Prif Weinidog “ddyletswydd i’r cyhoedd” i’w henwi.

“Roedd hi’n hen bryd i chi flaenoriaethu’r ddwy ddynes yn eich bywyd dros y ddwy ddynes sydd wedi dinistrio’ch gyrfa a’ch enw da,” meddai yn y neges.

“Dw i’n gwybod pwy ydyn nhw, a dw i wedi gwneud yn siŵr bod pawb arall yn gwybod hefyd. Mae eich penderfyniad i’w hamddiffyn wedi cael effaith mawr arnoch chi a’ch gwraig a’ch merch.

“Maen nhw wedi gwneud llawer o niwed i chi. Maen nhw wedi gwneud mwy o niwed i deulu Carl Sargeant. Mae gennych chi gyfrifoldeb i’r cyhoedd i’w henwi!”

https://www.facebook.com/permalink.php?story_fbid=451369378616222&id=100012294909100

 

Negeseuon

Nid dyma’r tro cyntaf i Paul Starling droi at y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymosod ar y Prif Weinidog.

Mae’r newyddiadurwr wedi postio cyfres o negeseuon yn gwawdio Carwyn Jones, ac yn amddiffyn Carl Sargeant, yn gynharach eleni, gan feirniadu’r ffordd aeth y Prif Weinidog ati i ddelio â diswyddo’r cyn-aelod cabinet.

Cafodd Carl Sargeant ei ddarganfod yn farw ar Dachwedd 7, 2017, ychydig ddyddiau’n unig ar ôl cael ei ddiswyddo. Cyn iddo farw, daeth i’r amlwg ei fod yn wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol.