Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r diweddar gitarydd a’r academydd, Chris Grooms, a fu farw yr wythnos ddiwethaf yn dilyn salwch byr.

Fe gafodd ei eni yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau, ond fe ddaeth yn wyneb adnabyddus ar lwyfannau gwyliau gwerin ledled Cymru a Lloegr.

Fe ddaeth yn adnabyddus ym myd canu gwerin yn 1978 pan oedd yn recordio i’r cwmni Transantlantic Records – un o’r labeli mwyaf yng ngwledydd Prydain ar y pryd ar gyfer canu gwerin.

Yn 1985, symudodd i fyw i Gymru er mwyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle llwyddodd i ddysgu’r Gymraeg ac ennill PhD mewn iaith a llenyddiaeth Gymraeg am ei astudiaeth o gewri mewn llên gwerin.

Fe ymddangosodd fel gitarydd ar S4C nifer o weithiau ar ddiwedd y 1980au, a bu’n chwarae’n gyson ar hyd y blynyddoedd mewn gwyliau gwerin megis Sesiwn Fawr Dolgellau.

“Arbenigwr addfwyn”

Ymhlith y rheiny sydd wedi talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol mae’r Athro Richard Wyn Jones o Sefydliad Llywodraethiant Cymru, Caerdydd. Mae’n ei ddisgrifio yn “ŵr addfwyn a chyfaill arbennig i Gymru ac i draddodiad cerddorol Cymru’n enwedig”.

Yn ôl yr Athro Daniel Williams o Brifysgol Abertawe, roedd yn “arbenigwr addfwyn ar gewri ac yn gawr yn y byd canu gwerin”.

Mae’r Athro Marged Haycock wedyn wedi talu teyrnged i “gyfaill mawr inni yng Nghymru”, a chyfaill i Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd lle y gwnaeth ei ddoethuriaeth o dan oruchwyliaeth Dr Ian Hughes.