Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ymwneud a char yn ardal Corneli ger Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr.
Cafodd nifer o bobl ei hanafu yn y digwyddiad yn Stryd y Ddol, Gogledd Corneli tua 8yh nos Iau, 19 Ebrill.
Yn ôl adroddiadau roedd y car wedi taro grŵp o bobl ger cae clwb pel-droed Cornelly United. Mae’r clwb wedi dweud ar eu cyfrif Twitter eu bod mewn “sioc” ar ôl “noson wallgof”.
Dywed Heddlu’r De nad ydy’r anafiadau yn rhai sy’n bygwth bywyd.
Mae’r dyn gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1800136445.