Mae tri aelod o fudiad y Ffermwyr Ifanc ym Mhowys wedi cael gwahoddiad i fynd i’r briodas frenhinol ar 19 Mai.
Bydd y Tywysog Harry a’r cyn actores Americanaidd, Meghan Markle, yn priodi yng Nghastell Windsor, gyda thua 1,200 o aelodau’r cyhoedd wedi cael gwahoddiad i wylio’r seremoni.
Cadeiryddion clybiau ffermwyr ifanc Sir Drefaldwyn, Brycheiniog a Maesyfed, sydd wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r dorf a hynny gan Arglwydd Raglaw Powys, Elizabeth Shân Legge-Bourke.
“Ges i wahoddiad gan Lieutenant Powys, fe wnaeth ei chlerc hi yrru llythyr draw i’r tŷ yn dweud fy mod i wedi cael fy newid i fod yn un o’r rhai oedd yn cael mynd i Windsor Castl
e,” meddai Caryl Hughes, 27, cadeirydd clwb Maldwyn, wrth golwg360.
Bydd Delyth Robinson, is-gadeirydd yr un clwb, yn mynd gyda Caryl Hughes, sy’n ffermio yn Nyffryn Ceiriog yn Llanrhaeadr-ym-mochnant.
Bydd y ddwy yn mynd â phicnic gyda nhw i wylio’r cyfan o du allan y Castell.
Y teulu yn dal i fod yn “berthnasol” i’r Ffermwyr Ifanc
“…Roeddwn i’n gwybod pryd oedd y briodas yn digwydd, a buaswn i byth yn meddwl ‘sen i’n cael mynd lawr i Lundain i rannu’r diwrnod efo nhw, felly dw i’n edrych ymlaen yn arw,” ychwanegodd Caryl Hughes.
“Dw i’n credu bod y teulu [yn berthnasol], yn enwedig i’r ffermwyr ifanc ‘wrach, mae gennym ni gysylltiadau gan Charles efo ffermio yng Nghymru.
“Trwy ein gwahodd ni yn y ffermwyr ifanc… mae’n dangos bod nhw isio cadw cysylltiad efo ni.”