Bydd dau ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i fynyddoedd yr Himalaya am yr ail dro i dyllu drwy rewlif uchaf y byd.
Bydd y rhewlifegwyr, Yr Athro Bryn Hubbard a’r ymchwilydd ôl-raddedig, Katie Miles, o Ganolfan Rhewlifeg y brifysgol, yn dechrau ar eu taith i rewlif Khumbu, wrth droed Mynydd Everest, y penwythnos hwn.
Dyma fydd yr ail dro i’r ddau academydd ymuno â thîm dan arweiniad Prifysgol Leeds, i dyllu rhewlifoedd yn yr Himalaya.
Ym mis Ebrill y llynedd, bu’r tîm yn gweithio 5,000m uwchlaw’r môr ac ar bwynt uchaf ‘basecamp’ Everest.
Bu’r tîm yn llwyddiannus wrth dyllu 150 medr i’r rhewlif 17 cilomedr o hyd er mwyn gosod camera 360° yno a nodi ei strwythur mewnol.
Eleni bydd y tîm yn gweithio 300 metr yn uwch i fyny’r rhewlif i astudio strwythur mewnol y rhewlif, mesur ei dymheredd, darganfod pa mor gyflym y mae’n llifo a gweld sut mae’r dŵr yn draenio drwyddo.
Astudio newidiadau i’r rhewlifoedd
Bydd y data o’r rhewlif yn cael ei gyfuno â lluniau lloeren i ddeall sut mae’n symud ac yn newid dros amser, a sut y gallai ymateb i newid hinsawdd.
“Bydd dychwelyd i’r safleoedd y tyllwyd y llynedd yn ein galluogi i gasglu’r cofnodwyr data sydd wedi bod yn crynhoi gwybodaeth dros y 12 mis diwethaf, ac am y tro cyntaf bydd modd i ni weld sut y gall y rhewlif ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol,” meddai’r Athro Bryn Hubbard.
“Rydym hefyd am gymryd mesuriadau newydd, ychydig yn uwch na gwersyll ‘base camp’ Everest, a chasglu data am nodweddion yr iâ sy’n disgyn o ardal sy’n cael ei hadnabod fel ‘Western Cwm’.”
Bydd Katie Miles yn defnyddio lliwiau llachar er mwyn astudio sut mae dŵr yn llifo trwy’r rhewlif a dywed bod mwy o ddŵr yn llifo trwyddo, o bosib o ganlyniad i newid hinsawdd.
“Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod mwy o ddŵr yn llifo i mewn i’r rhewlif wrth i’r iâ doddi, nag sydd yn dod allan o’r ymylon,” meddai.
“Bydd arbrofion olrhain lliw yn ein helpu i ddeall yn well i ble mae’r dŵr coll yn mynd, ac yn ein helpu i wella modelau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i ragweld newidiadau i’r rhewlif yn y dyfodol, ac o bosib y dŵr sydd ar gael i’r cymunedau is law.”