Mae’r heddlu yn y Canolbarth yn rhybuddio rhag negeseuon ebost twyllodrus sy’n ceisio gwerthu eiddo diogelwch personol i bobol.
Mae’r neges yn honni bod dynes wedi bod yn destun ymosodiad yn Nhrefyclo – ond mae’r heddlu’n gwadu bod y fath ymosodiad wedi digwydd. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i eiddo diogelwch personol honedig, ond mae’r dolenni’n twyllo pobol i roi eu manylion personol.
“Byddwch yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, fod hyn yn dwyll os yw straeon newyddion yn ymddangos yn eich ffrwd newyddion,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.
“Dydi’r fath beth ddim wedi digwydd yn Nhrefyclo ym Mhowys, felly peidiwch â bod ofn.
“Hefyd, peidiwch â chael eich temtio i agor y dolenni i’r cynnyrch diogelwch sydd wedi’u cynnwys.
“Gwarchodwch eich manylion personol ar-lein; arhoswch yn ddiogel.”