Mae dyn arall wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth John ‘Jack’ Williams yn Abertawe dros benwythnos y Pasg.

Yn ôl Heddlu’r De, cafodd dyn 48 oed ei arestio nos Iau (Ebrill 5) am gynorthwyo troseddwr.

Cafodd John ‘Jack’ Williams,67, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn ardal Pentrechwyth, am 12.30 yr hwyr, ar Fawrth 31.

Mae ymchwiliadau i’r farwolaeth yn parhau, ac mae’r heddlu wedi ennyn a gwybodaeth i gysylltu â nhw trwy alw 101 a dyfynnu’r cyfeirnod 1800111652.

Arestiadau

Mae dynes 31 oed a gafodd ei harestio ar Ebrill 3 am lofruddio, a dyn 45 blwydd oed wnaeth gael ei arestio ar Ebrill 4, wedi derbyn estyniad i’w cyfnod yn y ddalfa.

Mae dyn 39 blwydd oed a gafodd ei arestio ar Ebrill 4 wedi ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad, ac mae dynes, 37, wnaeth gael ei harestio ar yr un diwrnod wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.