Gyda gŵyl lesbiaid yn dod i ogledd Cymru yn yr haf, mae aelod o’r gymuned yno wedi croesawu’r cyhoeddiad – ond mae hi am weld rhagor yn digwydd yn yr ardal.
Wedi blynyddoedd o gael ei chynnal yng nghanolbarth Lloegr, bydd ‘L Fest’ yn dod i Landudno ym mis Gorffennaf, ac mae disgwyl 650 o bobol yno.
Yn ôl dynes o Gaernarfon, mae cynnal yr ŵyl yng ngogledd Cymru yn “beth gwych” – ond nid yw’n cuddio’r ffaith bod yna “ymdeimlad cymunedol” ar goll yn yr ardal, meddai.
“Mae’n hynod gadarnhaol,” meddai Malan Wilkinson wrth golwg360. “Mae’n dangos ein bod yn gynhwysol a bod pethau’n symud ymlaen yma.
“Ond, dal i fod does dim lot fawr iawn yn digwydd yma o ran bywyd cymunedol yng ngogledd Cymru. Mae dal lot o’r gymuned yn mynd i Fanceinion neu’n mynd i Gaerdydd.”
Bariau
Yn ôl Malan Wilkinson mae yna fariau “hoyw-gyfeillgar” yn y gogledd, ond yn annhebyg i Gaerdydd a Manceinion, does dim un bar hoyw “swyddogol” yno.
Ac mae “tipyn o ffordd i fynd” tan fydd hyn yn newid, meddai.
“Mae’n brofiad gwahanol cerdded mewn i far hoyw,” meddai. “A hefyd mae’n medru bod yn eithaf anodd, cyfarfod pobol yng ngogledd Cymru.”
Agor llygaid
Er hyn i gyd, mae Malan Wilkinson yn canmol yr ymgyrchwyr sydd wrthi’n gwneud gwaith “da iawn” yn y gogledd – gan gynnwys Balchder Gogledd Cymru – ac yn awyddus i weld ‘L Fest’ yn ehangu gorwelion.
“Gobeithio bydd o’n gwneud i bobol feddwl hyd yn oed yn fwy am sut gymdeithas sydd yna yn y gogledd,” meddai. “A sut mae pethau’n gweithio o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos.”