Mae’r trethi ‘Cymru’n unig’ cyntaf ers 800 o flynyddoedd yn dod i rym heddiw wrth gyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo yn disodli’r dreth stamp a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi’n disodli’r Dreth Dirlenwi.

Mae darogan y bydd y trethi newydd yn codi hyd at £1bn i Gymru dros gyfnod o bedair blynedd.

Datganoli

Cafodd rheolaeth dros y dreth stamp a’r dreth dirlenwi eu trosglwyddo i Fae Caerdydd o San Steffan fel rhan o Fesur Cymru 2014, gan roi’r hawl i Gymru ddeddfu o’r newydd.

Cafodd Awdurdod Refeniw Cymru ei sefydlu o ganlyniad er mwyn casglu’r trethi newydd. Mae’n adran o fewn Llywodraeth Cymru sydd heb weinidog yn gofalu amdani, ac mae’n cyflogi 70 aelod o staff yn Nhrefforest.

Pwerau newydd

Ymhlith y pwerau eraill a ddaeth i rym yng Nghymru heddiw mae’r rheiny tros gludiant, trefniadau etholiadol ac ynni.

Mae’r ddeddfwriaeth yn amlinellu’r holl rymoedd sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae popeth arall y tu hwnt i hynny o dan reolaeth San Steffan.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn dweud bod y drefn newydd yn enghraifft o “ddatganoli cyfrifol”.