Fe wnaeth ‘newyddion ffug’ droi’n ‘newyddion da’ yn dilyn Atgyfodiad yr Iesu, yn ôl Archesgob Cymru, John Davies.

Dyna fydd ei neges y Pasg hwn yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu am 11 o’r gloch heddiw, wrth annog Cristnogion i rannu’r newyddion da a dod â bywyd newydd a gobaith i’r rhai sy’n dioddef.

Fe fydd yn dadlau bod yr Iesu wedi dewis “pobol wallus, fregus, amheus” i ymuno ag Ef yn ddisgyblion yn Ei fudiad.

“I bobl fel hyn, fel y dywed awduron yr Efengylau wrthym, y dywedodd menywod ofnus, cynhyrfus, dryslyd a hyd yn oed ddig eu straeon am y profiadau hollol ddyrys yn yr ardd ar Ddiwrnod y Pasg cyntaf.

“I ddechrau cafodd y pethau oedd ganddynt i’w dweud eu hamau’n llwyr a’u gwrthod yn gyfan gwbl; eu trin fel straeon gwag; eu cyfarch yn hollol ddirmygus. Yn iaith heddiw, credid eu bod yn ‘newyddion ffug’!

“Ond oherwydd profiadau dilynol y bobl hynny, y tyfodd ffydd a sicrwydd o ludw amheuaeth a dirmyg. Daeth newyddion ffug yn Newyddion Da. Ac oherwydd y ffaith honno, ffaith yr atgyfodiad, yr ydych chi a finnau yma fore heddiw, yn llawenhau i gael ein galw’n Gristnogion sydd, fel y dilynwyr cyntaf hynny, yn credu ac yn datgan bod ‘Crist yn Atgyfodedig’.”

Lledu’r newyddion da

Fe fydd yn galw ar i bobol ledu’r newyddion da drwy helpu pobol sy’n ei chael hi’n anodd byw eu bywydau. Mae modd gwneud hynny, fe fydd yn dweud, drwy “ffyddlondeb, dewrder a phenderfyniad i fod yn ymgorfforiad o werthoedd a datgelu gras pur Teyrnas Dduw yn ein perthnasoedd a’n cysylltiadau beunyddiol”.

Yn ôl Archesgob Cymru, “Nid yw’n anodd dod o hyd i bobl o’r fath. Maent yn ein cymunedau lleol, yn ogystal â llawer pellach i ffwrdd. Mae eu hanghenion yn ein hwynebu bob dydd. Fel ein brodyr a chwiorydd cyntaf dylem fod yn effro i ddyfnder yr anghenion hynny a bod yn barod, fel asiantau’r atgyfodiad, i gefnogi’r rhai sy’n eu profi; yn barod i gludo bywyd a gobaith newydd ym mywydau blêr pobl mor anghenus a gorthrymedig, yn aml yn y tywyllwch dyfnaf hwnnw neu ar gyrion pellaf bywyd.

“Yn y gefnogaeth a’r help a roddwn, rydym yn dod â ac yn rhannu gyda nhw ystyr yr atgyfodiad, bywyd newydd, adnewyddu, goleuni mewn tywyllwch. Ac nid yw’n anodd bob amser. Peidiwch byth â bychanu pa mor ryddhaol ac adferol y gall gweithred syml o garedigrwydd cariadus fod i rywun mewn man tywyll, sydd i lawr ac na all suddo ymhellach.”