Mae gweinidog gyda’r Undodiaid yng Ngheredigion yn dweud bod lle i gwestiynu “dilysrwydd” yr Atgyfodiad.
Wrth gyfeirio at y ffaith nad yw enwad yr Undodiaid yn credu mewn “atgyfodiad corfforol, mae Cen Llwyd, sy’n bregethwr ar rai o gapeli ardal y Smotyn Du, yn dweud bod yna “nifer o gwestiynau’n codi” am sut mae’r digwyddiad yn cael ei disgrifio yn y Testament Newydd.
Yn eu plith mae’r ffaith nad oes yna gysondeb rhwng y disgrifiadau o Iesu Grist ar ei newydd wedd yn Efengylau Luc a Marc, gyda chyfeiriadau at leoliadau’n amrywio yn y ddau.
Ond mae Cen Lwyd yn mynnu nad yw’n “poeni’n ormodol” am hynny, ac mae’n dweud mai credu ym “mharhad yr enaid” sydd bwysicaf.
“…dw i’n dal i gredu ym mharhad yr enaid,” meddai wrth golwg360, “ac mae hynny i fi yn llawn mor bwysig na dim byd sydd yn rhan o’r traddodiad ry’n ni’n rhan ohono fe, ac yn fy nghred i. Oherwydd mae dyn yn gweithio at obeithio creu teyrnas nefoedd ar ein daear ni tra y’n ni yma’n byw.
“Ond dyw’r cyfan ddim yn mynd yn ofer ar ôl marw. Mae yna barhad i’r enaid…”