Mae athro mewn diwinyddiaeth yn dweud bod y Testament Newydd yn gytûn bod yr Atgyfodiad “wedi digwydd.”
Yn ôl Densil Morgan, dyna’r dystiolaeth sydd yn yr Efengylau, Llyfr yr Actau, a Llythyrau Paul – a gafodd ei sgwennu o fewn cenhedlaeth i’r digwyddiad.
Er hyn, mae’n ychwanegu na welodd neb y digwyddiad ei hun, dim ond y ffaith bod y bedd yn wag ac yna’r Iesu ei hun yn cerdded ymysg y bobol.
“Adfer” y greadigaeth
Wrth esbonio ystyr yr Atgyfodiad wedyn, mae Densil Morgan yn dweud bod angen ystyried y ffaith mai Iddewon defosiynol a welodd yr Iesu yn y cnawd, y bobol hynny a oedd yn credu y byddai’r Atgyfodiad yn digwydd ar ddiwedd hanes.
Ond ar ôl ei weld, fe gawson nhw eu hargyhoeddi bod yr Atgyfodiad wedi digwydd yng nghanol llif hanes, gyda’r Iesu yn ddechreuad ar y greadigaeth yn “adfer” ei hun o bob pechod, marwolaeth a dioddefaint.
“Dyna sylfaen gobaith,” meddai Densil Morgan wrth golwg360, “nid yn unig ar gyfer Cristnogion, ond ar gyfer y byd cyfan a chreadigaeth gyfan.
“Dyna pam r’ych chi’n cael y nodyn yma o orfoledd a buddugoliaeth, a hyder a gobaith, sy’n rhedeg trwy’r Testament Newydd.”