Mae ymgyrchwyr wedi ymateb yn chwyrn i gyhoeddiad adolygiad o S4C sy’n argymell rhoi holl gyllideb y sianel yn nwylo’r BBC.
Mewn datganiad, mae Ales Powell, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn dweud bod dileu cefnogaeth Llywodraeth San Steffan i’r sianel o 2022 ymlaen, yn rhoi sefyllfa ariannol darlledwr annibynnol yn llwyr yn nwylo’r BBC.
“Rhwng nawr a 2022, mae cyfraniad San Steffan am aros yr un fath, gan olygu toriadau sylweddol pellach mewn termau real i‘r sianel, a hynny ar yr un pryd ag y mae’r DCMS (Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraeth Prydain) yn gofyn i‘r sianel ymgymryd â gwaith newydd,” meddai wedyn.
“Dyw’r Llywodraeth ddim yn cynnig unrhyw sicrwydd am gyllid y sianel wedi 2022 – maen nhw’n ymddiried yn llwyr mewn trafodaethau gyda’r BBC fydd ddim yn dechrau tan 2021 – yr unig beth sy’n sicr mewn sefyllfa o’r fath yw mai blaenoriaethau Prydeinig y BBC fydd yn dod yn gyntaf, yn hytrach nag annibyniaeth S4C neu blwraliaeth cyfryngau Cymru.”
Adolygiad ddim yn ‘annibynnol’
“Does dim byd ‘annibynnol’ am yr adolygiad unllygeidiog yma,” meddai Aled Powell eto. “Mae i’w weld yn adrodd yr union esgusodion mae‘r Llywodraeth yn Llundain eisiau eu clywed.
“Rhoddais ddeiseb gyda dros mil o enwau arni yn nwylo Euryn Ogwen Williams fel tystiolaeth i‘r adolygiad, ond mae llais pob un ohonyn nhw hynny wedi ei hanwybyddu’n llwyr, gyda’r adroddiad yn honni‘n anghywir mai dim ond ‘lleiafrif o ymatebwyr’ oedd yn cefnogi datganoli darlledu.
“Mae agweddau eraill y ddogfen – megis diweddaru cylch gorchwyl S4C – yn adrodd yr hyn oedd yn amlwg i bawb eisoes, a bron â bod yn ddi-ystyr ochr yn ochr â’r toriadau mae’n ei gefnogi.
“Gyda Llywodraeth San Steffan yn llaesu dwylo, yr unig ateb yw datganoli grymoedd dros darlledu i Gymru – a’r cyllid i gyd-fynd â hynny – cyn i’r toriadau hyn ddod i rym, a chyn i’r BBC draflyncu S4C yn llwyr.”