Heddiw, fe ddaeth cyhoeddiad gan y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Neil McEvoy, ei fod yn bwriadu sefydlu ‘grŵp’ oddi fewn i’r blaid ar gyfer rhoi llais i aelodau llawr gwlad.
Fydd yna ddim croeso i aelodau o’r un blaid arall. Fe fydd y rheiny sy’n ymuno yn talu tâl aelodaeth. A’r nod, meddai, ydi newid Plaid Cymru o’r tu fewn.
Ond mae sawl cwestiwn yn codi, ac rydyn ni wedi’u gofyn nhw i Neil McEvoy. Dyma ei ymatebion…
Rydych chi wedi bod yn dweud bod angen i Blaid Cymru fod yn wrthblaid ac nid yn grŵp pwyso. Onid yw’r grŵp newydd hwn yn croes-ddweud hynny?
“Ym mha ffordd? Pwrpas grŵp pwyso yw dylanwadu prif entiti. Mae ein grŵp ni yn cael ei sefydlu i ddylanwadu ar gyfeiriad plaid sydd angen ymddwyn fel plaid wleidyddol ac nid fel grŵp pwyso.
“Syniad y grŵp pwyso yw sicrhau bod Plaid Cymru yn ymddwyn fel plaid wleidyddol trwy’r amser.”
Sut fyddwch chi’n gwneud hynny?
“Drwy drafod, aelodaeth, gweithgarwch, cyfarfodydd cyhoeddus, jyst yr ymgyrchu normal yr ydyn ni yn ei wneud eisoes, mewn ffordd.
“Y peth gwych yw, o fewn eiliadau i bostio’r stori hon ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd gan y grŵp newydd ei aelod cyntaf… o fewn eiliadau. A dyw’r person ddim yn aelod o Blaid Cymru.”
Felly a fydd yn rhaid i’r person hwnnw ymuno â Phlaid Cymru cyn ymuno â’ch grŵp chi?
“Y rheol sydd gennym ni yw bod dim hawl ganddyn nhw i fod yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol arall sy’n actif yng Nghymru. Felly mae’r person hwn heb fod yn wleidyddol yn y gorffennol, mae’n hoffi’r hyn rydym ni’n ei wneud, ac mae am ymuno.
“Dw i’n gweld y grŵp fel pont rhwng pobol sydd ar hyn o bryd ddim yn cymryd rhan gyda Phlaid Cymru, rydym ni am ddangos ein math ni o wleidyddiaeth iddyn nhw, ac yna eu cael nhw’n rhan o’r Blaid.
“Dyna, mwy na thebyg, fydd yn digwydd.”
Ydych chi’n rhagweld unrhyw wrthdaro gydag arweinyddiaeth Plaid Cymru o ystyried yr hyn sydd wedi bod yn digwydd a’ch perthynas chi gyda’r blaid yn ganolog?
“Rydyn ni wedi bod yn rhoi’r grŵp hwn at ei gilydd am amser hir a dyw e ddim byd i’w wneud â phersonoliaethau. Mae e’n ymwneud â chyfeiriad gwleidyddol ac mae e am sicrhau bod gyda ni Blaid Cymru â’i phrif nod o gael mwyafrif yn y Senedd.
“Does gyda ni ddim o hynny ar hyn o bryd, achos prif nod grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad yw dylanwadu ar y grŵp Llafur a’r hyn dw i’n dweud yw bod angen i ni daflu golau ar Lafur, ei gwrthwynebu a’i disodli hi yn Llywodraeth i Gymru.
“Ers mis Mai 2016, dydy hynny ddim wedi bod yn nod i grŵp Plaid Cymru, mae nod y grŵp ers hynny wedi bod i ddylanwadu ar y Llywodraeth Lafur a dw i ddim yn credu dylwn ni fod yn gwneud hynny, dylwn ni fod yn ceisio eu disodli.”
Pwy ydych chi’n credu fydd yn ymuno â’r grŵp?
“Mae croeso i bawb sy’n rhannu’r nod o sofraniaeth ymuno. Yn amlwg, efallai bydd gan y sawl sydd wedi cael eu dieithrio gan y blaid ddiddordeb mewn ymuno ond mae gen i ddiddordeb mewn mynd ar ôl y 50% o bobol yng Nghymru sydd ddim yn pleidleisio ar hyn o bryd.
“Os edrychwch chi ar fy record wleidyddol, dw i wedi cynyddu turn-out, aeth Gorllewin Caerdydd i lan o 43% i 49%, yn y Tyllgoed mi gynyddon ni dw i’n meddwl o 35% i 45%, sy’n gynnydd sylweddol mewn turn-out.
“Felly’r hyn dw i eisiau gwneud yw defnyddio’r grŵp fel ffordd o fynd i gymunedau sydd ddim yn cymryd rhan yn y broses wleidyddol ar hyn o bryd a rhoi llais iddyn nhw – yn gyntaf yn y grŵp newydd, ac yn ail gyda Phlaid Cymru gobeithio os ydyn nhw’n hoffi beth maen nhw’n clywed.”
Faint o bobol ydych chi’n gobeithio fydd yn ymuno?
“Dw i ddim yn gwybod, bydd rhaid gweld. Mae gennym ni gefnogaeth sylweddol o fusnesau.”
Pa fusnesau?
“Busnes yn gyffredinol. Ym mis Mai, byddwn ni’n lansio Cyngor Busnes o ymgynghorwyr ar gyfer y grŵp newydd.”
Beth fydd y Cyngor Busnes yn ei wneud?
“Ymgynghori ar bolisi economaidd yn gyffredinol, achos mae cymaint o bobol gyda sgiliau arbennig, profiad ac yn barod iawn i helpu, ond dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio.
“Rydyn ni eisiau bod yn agored a rhoi’r cyfle i bobol gyfrannu achos os oedd gennych chi ddarn plaen o bapur, mae gan rai pobol sydd ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth syniadau gwych, lle mae’r cyfle iddyn nhw gyflwyno’r syniadau hyn?
“Rydyn ni eisiau Cymru ffyniannus a llwyddiannus, felly os ydi pobol am gael hynny hefyd, yna cymrwch ran.”
Beth fydd enw’r grŵp?
Rydyn ni eto i benderfynu ar hynny.
A fydd unrhyw bresenoldeb gan y grŵp yn y Cynulliad?
“Na dim o gwbwl, mae’n gwbwl ar wahân.”
Faint fydd hi’n gostio i ymuno â’r grwp?
“Mae’n dibynnu ar ba gategori o aelodaeth. Byddwn ni’n edrych am aelodau sefydlol i’r grŵp a bydd hynny’n costio £200, bydd y ffi i aelodau cyffredin yn £1 y mis.”
A fydd yr arian aelodaeth yn mynd i goffrau Plaid Cymru?
“I’r grŵp, mae’n mynd i fod yn gwmni ar wahân. Rydyn ni yn y broses o sefydlu’r cwmni.”
Onid cam at ffurfio grwp a fydd, yn y diwedd, yn torri’n rhydd o Blaid Cymru ydi hyn?
“Dw i’n aelod ffyddlon o Blaid Cymru sydd mewn proses o apêl am aelodaeth. Beth mae pobol yn sylwi yw fy mod i wedi cael fy ngwahardd am ddeunaw mis am gael fy nghroesawu yn y gynhadledd [llynedd] gan aelodau.
“Mae’n grŵp pwyso i sicrhau bod Plaid Cymru yn blaid wleidyddol sy’n siarad am sofraniaeth ein gwlad.
“Dw i’n Bleidiwr o’r brif ffrwd. Mae hwn yn grŵp oddi fewn i Blaid Cymru.”