Bydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 1% yn ogystal â chymorth i dalu costau cynyddol yswiriant, y flwyddyn nesaf.
Yn ogystal â’r codiad cyflog, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna godiad o 1.4% ar gyfer costau cyffredinol.
Fel rhan o’r cynllun yma mae disgwyl i feddygon teulu wella eu darpariaeth Cymraeg, a gwella trefniadau hyfforddi a mentora.
Gwaith i’w wneud
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gydweithwyr yn GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru am eu gwaith a’u hymrwymiad parhaus i’r rhaglen ddiwygio hon,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn sgil y cyhoeddiad.
“Rydym wedi gwneud cynnydd mewn cysylltiad â nifer o eitemau, ond mae corff sylweddol o waith yn parhau i’w wneud ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”
“Diffyg eglurder”
“Mae’n dda gweld bod cytundebau wedi’u taro tros sawl fater allweddol, gan gynnwys tâl, ond mae cwestiynau’n parhau,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns.
“Mae yna ddiffyg eglurder tros y camau sydd wedi’u cymryd – os oes unrhyw gamau wedi’u cymryd – tros gostau indemniad meddygon teulu, sydd yn eu hatal rhag gweithio oriau ychwanegol.”