Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhellion gan un o bwyllgorau’r Cynulliad, tros hawliau iaith cleifion yng Nghymru.
Yn eu hadroddiad mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gyflwyno rheoliadau pellach, a newidiadau, er mwyn diogelu’r hawliau yma.
Mae’r pwyllgor hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ganiatáu mwy o amser iddyn nhw graffu ar y rheoliadau sydd eisoes ar waith.
Gyda phleidlais tros y rheoliadau wedi’i threfnu yn y Senedd yfory (Mawrth 20), mae’n edrych yn ddigon posib y bydd yn cael ei gohirio yn sgil yr argymhellion.
“Sicrhau hawliau cadarn”
“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod aelodau o bob plaid wedi gofyn am newidiadau i’r rheoliadau yma: yn eu ffurf bresennol dydyn nhw ddim yn creu dim un hawl i bobl gael gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg,” meddai Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Osian Rhys.
“Fe ddylai’r Llywodraeth fynd ati nawr i gynnal trafodaethau brys gydag aelodau o bleidiau eraill, ac wedyn [i] ail-drefnu’r bleidlais ar reoliadau diwygiedig cyn gynted â phosibl.
“Mae’n hollbwysig cael hyn yn iawn. Wedi’r cwbl, mae’n gyfle prin, unwaith-mewn-degawd o bosib, i sicrhau hawliau cadarn i bobl ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yn Gymraeg.”
Llythyr
Mae nifer o weithwyr meddygol – gan gynnwys seicolegydd, fferyllydd, a meddyg teulu – wedi anfon llythyr at Aelodau’r Cynulliad yn galw arnyn nhw i wrthwynebu’r bleidlais yfory.
“Mae’r Gymraeg yn rhan greiddiol o’r gwasanaeth iechyd nid atodiad; rhywbeth sy’n hollol amlwg mewn llu o waith ymchwil gan gynnwys adroddiadau Comisiynydd y Gymraeg,” meddai’r llythyr.
“Ysgrifennwn atoch chi felly er mwyn eich annog i bleidleisio yn erbyn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) pan ddeuant at bleidlais gan eu bod yn methu â rhoi unrhyw hawliau i bobl dderbyn gofal iechyd yn Gymraeg.”
Yn ôl y grŵp, mae’r rheoliadau yn “eu ffurf bresennol” yn eithrio mathau penodol o feddygon, a mathau penodol o ymgynghoriadau meddygol.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.