A hithau’n ‘Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod’ heddiw (Mawrth 8), fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i nodi’r achlysur.
Mae adloniant ac arddangisfa wedi’u trefnu ar y cyd â Phrifysgol De Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Fe fydd yna gynhadledd yn trafod ymgyrchoedd hanesyddol menywod; cyn y bydd yr Athro Angela John; Girlguiding Cymru; Dr Ryland Wallace ac Opera Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu i ddigwyddiadau gwahanol.
Hefyd, mi fydd y Senedd yn cynnal arddangosfa o waith sy’n ymdrin ag ymgyrch menywod i ennill y bleidlais yn 1918.
“Effaith bwerus” menywod
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Phrifysgol De Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ysbrydoledig yn y Cynulliad,” meddai Ann Jones, y Dirprwy Lywydd.
“Yn ogystal, yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, mae’n ein hatgoffa o’r effaith bwerus y gall menywod ei chael ar y byd o’n hamgylch.”