Mae dyn 73 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn ardal Arberth brynhawn dydd Mawrth (Mawrth 6).
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Redstone Cross am 1.30yp yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Skoda gwyn a thancer petrol.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar y rhif, 101.