Mae nai y bardd, Hedd Wyn wedi rhoi croeso “gofalus” i’r gân a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru eleni.
Cafodd y gân fuddugol, sef ‘Cofio Hedd Wyn’, ei chyfansoddi gan Erfyl Owen o bentref Rhewl, ger Rhuthun, a’i pherfformio ar y noson (dydd Iau, Mawrth 1) gan y band, Ceidwad y Gân, gyda’i fab, Harri, yn brif leisydd.
Ond er i rai ymateb yn negyddol i’r gân ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai’n credu bod ei chynnwys yn hanesyddol anghywir, mae nai Hedd Wyn yn credu ei bod yn “gân dda iawn”.
Er hyn, nid yw’n gallu cytuno gydag un darn ynddi sy’n cyfeirio at y ffaith bod ei ewythr wedi “marw dros ei wlad”.
“Doedd hynny ddim yn wir, doedd o ddim yn gwybod beth oedd o’i flaen o…” meddai Gerallt Williams wrth golwg360. “Ond cân oedd hi… mae hwnna wedi dŵad ac wedi mynd. Rydach chi’n anghofio am bethe fel’na.”
Ymateb Twitter
Ymhlith y rhai a fu’n ymateb i’r gân ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r cerddor o Flaenau Ffestiniog, Gai Toms, a’r Prifardd Aneirin Karadog.
Roedd Gai Toms wedi’i anesmwytho braidd gyda chynnwys y gân, ac yn teimlo ei bod yn “clodfori rhyfel yn enw Cymru.”
Newy wylio #CiG2018… os dwi wedi deall geiriau can Cofio Hedd Wyn yn iawn, sut ddiawl nath y panel adael o drwodd?!? O be dwi ddallt (correct me if i’m rong!) ma’n clodfori rhyfel yn enw Cymru(???)… 🧐🧐🧐
— Gai Toms (@gaitoms) March 2, 2018
Doedd Hedd Wyn ddim wir eisiau ymladd dros 'ei wlad' #mondgweud #cig2018
— Aneirin Karadog 🏴🇺🇦 (@NeiKaradog) March 1, 2018
Pryd ddechreuodd Dim Byd Cân i Gymru? Ydan ni’n siŵr nad un o’u sketches nw odd Cofio Hedd Wyn..? #CiG2018
— Guto Ifan (@gutoifan_) March 1, 2018