Mae 1,500 o gartrefi ledled Cymru yn parhau heb gyflenwad dŵr heddiw, a hynny wrth i dywydd oer yr wythnos ddiwethaf barhau i achosi problemau.
Yn ôl Dŵr Cymru, maen nhw bellach wedi llwyddo i leihau’r rhif o 6,000 i 1,500 ers i’r tywydd droi’n fwy mwyn dros y penwythnos.
Ond maen nhw’n ychwanegu ei bod nhw’n dal i’w chael yn “anodd” i sicrhau bod gan bawb gyflenwad dŵr unwaith eto.
I’r rheiny sydd bellach a dŵr eto wedyn, mae Dŵr Cymru yn eu rhybuddio bod yna bosibilrwydd y bydd gan eu dŵr liw rhyfedd am gyfnod, ac maen nhw’n cynghori pobol i beidio â gadael eu tapiau i redeg, gan y bydd hynny’n achosi problemau wrth i’r rhwydwaith ail-lenwi.
“Ymddiheuro o waelod calon”
“Rydym ni am ymddiheuro o waelod calon i’n cwsmeriaid sy’n parhau i gael problemau gyda’u cyflenwad y bore yma,” meddai llefarydd ar ran y cwmni. “Rydym ni’n gweithio er mwyn sicrhau ein bod yn datrys unrhyw broblemau cyn gynted â phosib.”
Yr ardaloedd hynny sy’n parhau gyda thrafferthion yw Llanddona yn Ynys Môn; Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd; Solfach yn Sir Benfro, a rhai ardaloedd yn Nyffryn Teifi o gwmpas Llandysul.
Maen nhw’n gobeithio y bydd cyflenwad dŵr y rhain wedi dychwelyd erbyn diwedd y dydd.
Mae cyflenwad dŵr Cwm Clydach ac Abertillery bellach wedi dychwelyd.