Mae’r Cymro, Dave Brailsford, wedi dod dan y lach mewn adroddiad damniol gan bwyllgor seneddol sydd yn ei gyhuddo ef a Bradley Wiggins o ddefnyddio cyffuriau pwerus i baratoi ar gyfer rasys seiclo Tîm Sky.
Mae’r adroddiad, sydd wedi’i baratoi gan y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn dweud y dylai’r rheiny sy’n rhoi, ac yn cyflenwi, cynnyrch dopio i athletwyr gael eu dwyn o flaen eu gwell.
Mae Dave Brailsford, a gafodd ei fagu ym Mhenisarwaun yng Ngwynedd, ynghyd â chyn-enillydd y Tour de France yn 2012, Bradley Wiggins, wedi’u cyhuddo o groesi “llinell foesol” trwy ddefnyddio cyffuriau pwerus, sydd o fewn y rheolau, i wella perfformiad.
Mae’r Arglwydd Coe hefyd wedi’i gyhuddo o gamarwain y Senedd, ar ôl iddo gael ei holi ynglŷn â’r problemau sy’n bodoli ym myd seiclo.
Creu “fframwaith cyfreithiol”
Ynghyd â’r cyhuddiadau, mae’r adroddiad hefyd yn cynnig argymhelliad ar sut i fynd ati i ddatrys y broblem o gyffuriau ym myd chwaraeon.
Mae’r argymhelliad hwnnw’n cynnwys creu “fframwaith cyfreithiol” a fydd yn mynd ar ôl y rheiny sy’n darparu cynnyrch dopio i athletwyr, ac yn eu trin fel troseddwyr.
“Cymrwch enghraifft Syr Dave Brailsford fel tystiolaeth i ni,” meddai cadeirydd y DCMS, Damian Collins.
“Pan gafodd ei holi os oedd seiclwyr ar wahân i Syr Bradley Wiggins wedi derbyn triamcinolone, fe ddywedodd e nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth. Felly, doedd e ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yn y tîm.”
Nol yn 2015, dywedodd Dave Brailsford ei fod eisiau i Tîm Sky fod y “tîm seiclo gorau yn y byd heb amheuaeth” erbyn 2020 a’i fod eisiau gwneud hynny yn “lân.”
Mae ’na gwestiynau’n cael eu gofyn erbyn hyn beth oedd y tu ôl i lwyddiant y tîm, gyda rhai’n awgrymu y dylai Dave Brailsford ymddiswyddo.
Mae Bradley Wiggins wedi gwadu bod unrhyw gyffuriau wedi cael eu defnyddio heb fod angen meddygol, ac mae Dave Brailsford yntau wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn.