Mae actor a bortreadodd y ‘Swagman o Geredigion’ mewn ffilm ddogfen, yn dweud ei bod hi’n “warthus” nad yw plant Cymru’n cael y cyfle i ddysgu mwy amdano.
Yr wythnos hon, mae’n 200 mlynedd union ers i’r dyddiadurwr, y ffermwr a’r bardd, Joseph Jenkins, gael ei eni (Chwefror 27, 1818) ar fferm Blaen-plwyf ger Talsarn yn Sir Aberteifi.
Mae’n enwog am iddo – ac yntau dros ei 50 oed – adael ei deulu a’i fferm yn Nhrecefel, Tregaron, a hwylio i Awstralia yn 1869 i fyw fel swagman am chwarter canrif, gan nodi ei hynt a’i helyntion yn ei ddyddiadurion.
Yn Awstralia, fe fu’n gwneud nifer o wahanol swyddi, yn cynnwys cloddio am aur, ffermio a chlirio carthffosiaeth.
“Mwy o barch” yn Awstralia
Ond yn ôl yr actor o Ddyffryn Aman, Dafydd Hywel, a wnaeth bortreadu Joseph Jenkins mewn ffilm ddogfen ar gyfer S4C yn y 1990au, mae’n dangos faint mor wael yw’r cwricwlwm addysg yng Nghymru fod gan bobol yn Awstralia mwy o “barch” i’r swagman o Gymru.
“Dyna beth sy’n gadael y Cymry i lawr… pan es i ma’s i Awstralia o’dd e’n amlwg bod parch mowr gan bobol yn Victoria a Melbourne iddo fe,” meddai’r Dafydd Hywel wrth golwg360, “ac mae lot o bobol yn Awstralia yn gwybod am hanes Joseph Jenkins.
“Ond y broblem gyda ni yng Nghymru, mae gyda ni gwricwlwm sydd ddim yn neud hanes Cymru…
“Dyna beth sy’n warthus yw bod pobol yng Nghymru ei hunain, a bo fi ddim yn gwybod dim amdano fe tan bo fi’n neud e.”
“Bachan ddiddorol”
Mae Dafydd Hywel yn dweud fod dod i nabod Joseph Jenkins wedi bod yn brofiad “diddorol”, ac mae’n falch o fod wedi cael y cyfle i chwarae rhan y crwydryn o Dregaron.
“Roedd e’n fachan diddorol,” meddai. “Dw i wedi bod yn lwcus i bortreadu pobol fel Lewis Lewis, a gafodd ei allforio i Awstralia… Iolo Morgannwg a Joseph Jenkins.
“Mae’n ddiddorol i chware’r bois hyn, ac ar ôl chware nhw, fe licen i ʾse’n i’n cwrdd â nhw.”
Dyma Dafydd Hywel yn esbonio sut y cafodd ei wahodd i chwarae Joseph Jenkins, a’r hyn oedd yn ddiddorol am y cymeriad…
Mae dyddiaduron Joseph Jenkins ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn Llyfrgell Victoria yn Awstralia.