Mae cantores ifanc o Gwm Dulais, yn dweud fod y Gymraeg wedi bod yn allweddol ym mhob rhan o’i gyrfa hyd yn hyn.
Roedd Bronwen Lewis yn perfformio yn Nhŷ Tawe nos Wener ddiwethaf yn noson fisol Tyrfe Tawe.
A hithau eisoes wedi perfformio ar lwyfan y gyfres The Voice ac yn y ffilm Pride, mae hi bellach ar daith gyda Max Boyce yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Oni bai ei bod hi’n siarad a chanu yn Gymraeg, meddai, fyddai hi “ddim yn sefyll allan”.
Dechreuodd ganu mewn gigs i’r fenter iaith leol tra ei bod hi’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera – ac mae hithau bellach yn gweithio mewn ysgolion yn hybu’r iaith drwy gerddoriaeth.
“Ond ar ôl gadael yr ysgol,” meddai, “o’dd e’n anodd trio dod i mewn i’r diwylliant yng Nghymru heb gael fy adnabod [yn benodol] fel person sy’n canu yn Gymraeg. Yn syth, ges i lot o gigs yn Gymraeg.
“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn, iawn i fy ngyrfa i.”
The Voice
Ymddangosodd Bronwen Lewis yng nghyfres The Voice yn 2013, a chanu ei fersiwn ddwyieithog unigryw o ‘Fields of Gold’ gan Sting – a chael ymateb digon cymysg am wneud hynny.
“Yn y lle cynta’, ges i lot o bobol yn dweud – fel allwch chi ddisgwyl – “os ’dyn nhw ddim yn deall y Gymraeg, falle fyddwch chi ddim yn mynd trwyddo”. Ond nid hwnna oedd yr amcan fwya’ un i fi. O’n i jyst am gadw i steil fy hun, gwneud yn siŵr bo fi’n gwisgo fel rwy’ arfer gwisgo mewn gig a chanu fel rwy’ arfer canu mewn gig.”
Wnaeth hi ddim llwyddo i berswadio’r un o’r beirniaid i droi eu cadeiriau, ond mae’n dweud bod y profiad wedi rhoi hwb i’w phroffil a’i gyrfa.
“Heb yr iaith, fydden i ddim yn sefyll ma’s, i fod yn onest. Mae llais fi’n wahanol, ffordd o chwarae falle’n unigryw, ond y peth sy’n rili gwneud i fi sefyll ma’s o flaen y bobol eraill yn y diwylliant yw’r ffaith bo fi’n siarad Cymraeg.”
Pride
Ei hymddangosiad ar The Voice oedd wedi arwain at ennill rhan fach yn y ffilm Pride, sy’n adrodd hanes cefnogaeth y gymuned LGBT i’r glowyr yng nghwm genedigol Bronwen Lewis, Cwm Dulais.
Yn y ffilm, canodd hi’r gân Bread and Roses, a hithau wedi’i dewis am ei bod hi’n ferch leol sy’n canu ac yn siarad Cymraeg.
“O’n nhw wedi dweud wrtha i ar y ffôn fod e’n mynd i fod yn indie film fach, o’n nhw ddim yn siŵr sut o’dd e’n mynd i fynd. Gwelodd ysgrifennwr y ffilm fi ar The Voice, ac o’n nhw’n dweud, “Chi’n siwto’r ffaith fod e wedi cael ei ffilmio yn Nyffryn Dulais…”
“A wedyn wnes i gerdded mewn a gweld Bill Nighy ac Imelda Staunton a phobol fi wedi edrych lan iddyn nhw trwy ’mywyd i ac o’dd e jyst yn mad! O’n i’n teimlo’n bwysig i fod yn Gymraes!
“Dw i ddim yn gwybod dim am actio, o’n i byth yn gallu actio yn yr ysgol! Ond o’n nhw’n dod lan i fi a dweud, “Sut y’ch chi’n dweud hwn yn acen Blaendulais?” Ac o’n i’n meddwl, “Waw, mae acen Blaendulais fi’n gallu dangos i Bill Nighy sut i actio!”
Mae’n cyfaddef nad oedd hi’n ymwybodol o’r hanes cyn ymddangos yn y ffilm, ond roedd ei thad a’i thad-cu wedi byw trwy’r cyfnod anodd ym mywyd y cwm.
“Dywedodd Dad wedyn, “O’dd e’n hollol normal i ni gael yr LGBT crowd lawr, o’n ni’n dawnsio ar y byrddau, aethon ni i’r gay clubs yn Llundain…” ac o’n i fel, “Dad!” achos chi’n edrych ar eich tad a tad-cu sy’ wedi byw yn yr un pentre’ trwy’u bywydau nhw, yn mynd i Gôr Onllwyn, yr un dafarn bob nos Sadwrn a wedyn maen nhw wedi bod yn dawnsio yn Llundain yn y gay clubs!
“O’n i fel, “Waw!” ond iddyn nhw, o’dd e jyst yn rhywbeth normal o’n nhw wedi helpu pobol ac o’dd pobol wedi helpu nhw. Ond mae pobol ffaelu credu’r stori a fi ffaelu credu chwaith. Mae’n neis gallu dysgu tipyn bach am hanes yr ardal.”
Cefnogi Max Boyce
A hithau’n yn gantores adnabyddus yn ei rhinwedd ei hun, mae Bronwen Lewis yn cefnogi un o fawrion ei milltir sgwâr, Max Boyce ar ei daith yng Nghymru a Lloegr – a hynny, unwaith eto, am ei bod hi’n canu yn Gymraeg.
“Wnes i ganu yng Nghlwb Rygbi Glyn-nedd a daeth e mewn achos taw local e yw Glyn-nedd,” meddai.
“Daeth e mewn a gwylio’r set a wnes i ganu Myfanwy yn acapella. A wnaeth e siarad â fi a dweud, “Ni moyn merch sy’n gallu siarad Cymraeg a chwarae’i hofferynnau ei hun. Chi’n ffito’r bil! Chi moyn dod ar daith rownd Prydain?” O’n i fel, “Ie! Beth arall alla’i wneud?!”
Mae’r daith yn mynd â nhw i Neuadd y Dref Maesteg heno (nos Iau), i Theatr y Lyric Caerfyrddin nos fory (nos Wener) ac yna i Theatr Ffwrnes Llanelli (Mawrth 9), Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd (Mawrth 10) cyn gorffen “gartref” yn Neuadd Gwyn Castell-nedd ar Fawrth 16.
Ond maen nhw hefyd wedi cael croeso cynnes yn Lloegr, meddai Bronwen Lewis.
“Wnaeth Cymru golli i Loegr y noson cyn i ni berfformio lan yn Tewkesbury, so o’n ni yn Lloegr, Max yn mynd ar y llwyfan ac eisiau canu Hymns and Arias.
“O’n i’n meddwl, “Mae e wastod yn dweud y llinell ‘Wales defeated England’” so wnaeth e newid y geiriau a siarad am guide dogs y reff! Hileriys! Mae e’n cymryd sefyllfa anodd a wastod yn dod ma’s yr ochr iawn!
“Fi wedi dysgu lot wrth Max Boyce. Nid yn unig ma’ fe’n gallu ysgrifennu caneuon gwych a gallu perfformio’n wych yn 75 mlwydd oed, ma’ fe’n gallu gwneud i bob un person chwerthin – hyd yn oed pobol o Loegr, pobol sy’ ddim yn hoffi rygbi.
“Hyd yn oed mewn llefydd fel Tewkesbury, Malvern, Amwythig, o’n i’n canu Haleliwia yn Gymraeg, cyfieithiad Eurig Salisbury o ‘To Make You Feel My Love’ a’r gynulleidfa rili yn twymo i’r peth. Maen nhw rili yn joio fe. O’n i ddim yn siŵr sut fyddai e’n mynd lawr yn Lloegr, ond aeth e lawr yn dda.”