Mae profiadau rhieni heddiw “mor wahanol” i brofiadau rhieni ddoe, yn ôl mam ac awdures o Fachynlleth.
Dyna pam mae Heulwen Davies wedi mynd ati i lunio’r llyfr ffeithiol i famau, Mam – Croeso i’r Clwb, a hynny cwta chwe mis ar ôl iddi hefyd ffurfio’r cylchgrawn ar-lein, Mamau Cymru.
“Dw i’n meddwl, yn sicr, fod angen mwy o adnoddau fel hyn ar rieni,” meddai wrth golwg360, “achos mae profiade rhieni heddiw mor wahanol i brofiade’n rhieni ni, oherwydd ʾdan ni’n gorfod gweithio, ʾdan ni’n gorfod jyglo lot o bethe gwahanol, ac nid dim ond bod yn fam adre…”
“Felly mae cael fforymau digidol, llyfrau, pobol sy’n hapus i drafod, sgwrsio a chefnogi ei gilydd, yn hollbwysig.”
Diffyg deunydd Cymraeg
Fe gafodd Heulwen Davies y syniad o lunio Mam – Croeso i’r Clwb yn sgil ei phrofiad o fod yn feichiog bron i chwe blynedd yn ôl, a’i methiant i ddarganfod unrhyw ddeunydd Cymraeg ar sut i fod yn fam.
“Mi wnes i benderfynu bo fi isho sgwennu llyfr achos pan o’r feichiog gyda fy merch, Elsie… fe wnes i sylweddoli ar y pryd bod yna ddim byd Cymraeg o gwbwl ar gael i famau – dim llyfre Cymraeg, dim platfformau digidol na dim byd,” meddai eto.
“Mi ro’n i’n poeni nad o’n i’n gallu uniaethu o gwbwl gyda’r pethe Saesneg oherwydd ei bod nhw mor wahanol i ʾmhrofiad fel mam yng nghefn gwlad Cymru, ac fel mam oedd yn magu ei phlentyn yn Gymraeg ac yn ddwyieithog.”
Profiad personol
Mae’r gyfrol ei hun yn gyfres o benodau byrion sy’n cynnwys dyfyniadau gan 100 o rieni eraill, ynghyd â dwy fydwraig, meddyg teulu a thadau.
Ond yn bennaf, mae’n cynnwys profiad personol yr awdures, fel y mae’r clip isod o’r bennod ‘Hormôns’ yn ei ddangos…