Mae’r cwmni ceir, Toyota, wedi cyhoeddi y bydd y rhan fwyaf o’r injanau ar gyfer y Toyota Auris newydd yn cael eu hadeiladu yng Nglannau Dyfrdwy.
Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i’r cwmni ddatgelu y bydd y car newydd yn cael ei greu yn eu ffatri yn Burnaston, Sir Derby, lle mae Toyota wedi buddsoddi £240m dros y flwyddyn ddiwethaf yn adnewyddu’r safle – gyda’r Llywodraeth hefyd yn cyfrannu £20m.
Fe fydd y mwyafrif o injanau’r car wedyn yn cael eu darparu gan ffatri’r cwmni yng Nghlannau Dyfrdwy, sy’n cyflogi dros 500 o bobol.
Marchnad Ewropeaidd yn “hanfodol”
Yn ôl pennaeth Toyota, Dr Johan Van Zyl, mae’r cyhoeddiad hwn yn adlewyrchu’r “hyder” sydd gan y cwmni yn sgiliau eu gweithwyr yn y Deyrnas Unedig.
“Fel cwmni, ry’n ni’n gwneud y gorau ag y gallwn ni i sicrhau cystadleuaeth ein gweithfeydd yn y Deyrnas Unedig fel y ganolfan gynhyrchu fwyaf yn ein busnes yn Ewrop,” meddai.
“Gyda tua 85% o’r ceir sy’n cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn cae eu hallforio i farchnadoedd Ewropeaidd, mae masnach rydd a chadarn rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y dyfodol.”