Mae mam wedi cael ei charcharu am o leiaf 14 o flynyddoedd a naw mis am fygu a gwenwyno ei babi wyth wythnos oed.
Plediodd Hannah Turtle, 22, o Shotton yn Sir y Fflint, yn euog i lofruddio ei mab, James Hughes, yn ei hachos yn Llys y Goron y Wyddgrug.
Fe wnaeth hi gyfaddef hefyd dri achos o gam-drin ei phlentyn a dau achos o wenwyno.
Mewn gwrandawiad dydd Iau, clywodd y llys ei bod wedi rhoi’r cyffur gwrth-iselder, fluoxetine, i’w botel dwywaith yn yr wythnosau yn arwain at ei farwolaeth ym mis Mehefin 2016.
Roedd Hannah Turtle wedi rhoi ei llaw dros geg a thrwyn ei babi, ac achosi iddo beidio anadlu, ar dri achlysur cyn ei farwolaeth.
Roedd y babi wedi cael ei gludo i’r ysbyty ond bu farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd Mr Ustus Lewis: “Roedd James yn fabi wyth wythnos oed ac yn haeddu cael ei ddiogelu, a dylech chi, ei fam, fod wedi gwneud hynny. Yn lle hynny, fe wnaethoch ei fygu.”
Wrth ei hamddiffyn, dywed Gordon Cole QC, fod ganddi hanes o salwch meddwl a hunan-niweidio.