Bydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cynnal streic undydd ar ddydd Mercher 5 Hydref i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri pensiynau.

Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol yr undeb yn Aberystwyth heddiw, ar sail canlyniad balot.

Dywedodd yr undeb ei fod yn “anfoesol dinistrio system sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n darparu pensiwn teg i weithwyr”.

Cynhaliwyd y balot dros yr haf, ac mae’r canlyniad yn dangos bod 89% o blaid gweithredu diwydiannol. Canran y pleidleiswyr oedd 56%.

“Mae aelodau UCAC wedi pleidleisio’n ysgubol o blaid streicio dan ddangos eu bod yn unedig eu barn fod ymosodiad Llywodraeth San Steffan ar bensiynau’r sector gyhoeddus, gan gynnwys pensiynau athrawon a darlithwyr, yn gwbl ddianghenraid ac yn gwbl annheg,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Gwyddom fod y Cynllun Pensiwn Athrawon yn gynaliadwy. Nid cynaladwyedd sydd wrth wraidd cynlluniau’n Llywodraeth, ond llenwi’r twll ariannol a wnaed gan y bancwyr. Mae’n anfoesol i ddinistrio system sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n darparu pensiwn teg i weithwyr – a hynny er mwyn hwylustod gwleidyddol.”