Wylfa, Ynys Món
Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud wrth Golwg360 fod “Plaid Cymru’n sefyll dros sicrhau bod penderfyniadau am ddatblygiadau pwysig fel Wylfa B yn cael eu gwneud yng Nghrymu yn hytrach nag yn Llundain.”
Mae hefyd wedi gwadu newid ym mholisi’r blaid ar ynni niwclear yn dilyn Cynhadledd flynyddol 2011.
Daw hyn wedi i arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Jake Griffiths, ymosod ar Blaid Cymru am bleidleisio o blaid cael atomfa niwclear newydd ym Môn. Roedd Mr Griffiths wedi cyhuddo Plaid Cymru o droi cefn ar ei hegwyddorion er mwyn diogelu seddi yn y gogledd-orllewin.
Tan hyn, roedd polisi Plaid Cymru yn erbyn datblygu gorsafoedd niwclear newydd, er bod ei harweinydd, Ieuan Wyn Jones, AC Ynys Môn, o blaid cael atomfa yno.
Mae Wylfa, lle mae atomfa ar hyn o bryd, yn un o’r safleoedd sydd wedi eu clustnodi ar gyfer gorsafoedd pellach gan Lywodraeth San Steffan.
Ond yn ôl Jake Griffiths mae hynny’n mynd yn groes i’r duedd ryngwladol gyda gwledydd fel yr Almaen yn troi cefn ar ynni niwclear, yn sgil y trafferthion yn atomfâu Fukushima yn Japan.
Fe fyddai rhagor o swyddi’n cael eu creu ym Môn, meddai, pe bai arian yn cael ei fuddsoddi mewn ynni gwyrdd yn hytrach na niwclear.
“Mae’n eironig fod Plaid Cymru newydd ymrwymo i Gymru annibynnol ac eto mae’n cefnogi cynllun ynni niwclear sydd wedi ei gynllunio gan San Steffan i fodloni gofynion ynni Lloegr,” meddai mewn datganiad.
Ond, mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud wrth Golwg360 “nad oes newid ym mholisi Plaid Cymru ar ynni niwclear yn dilyn Cynhadledd flynyddol 2011.
“Mae’r Blaid yn gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear newydd, ac yn galw ar lywodraeth San Steffan, os yw’n caniatáu datblygiad pellach yn Wylfa, i sicrhau bod pobl leol yn manteisio o’r cyfleoedd economaidd allai ddilyn.”