Fe fydd 420 o bobol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn prosiect ledled y Deyrnas Unedig i ddatblygu ffyrdd o drin rhai o’r clefydau mwya’ prin.
Fe fydd gwyddonwyr yn mapio’u genynnau nhw yn y gobaith o allu adnabod y clefydau’n well neu o ddatblygu triniaethau newydd.
Fe fydd Canolfan Meddygaeth Genomeg gynta’ Cymru’n cael ei sefydlu yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael £2.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac £1 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.
Cymru’n ‘rhan o chwyldro’
Fe fydd dilyniannau genom cyfan yn cael eu gwneud ar y 420 o gleifion yng Nghymru trwy gytundeb rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd a Genomics England, sy’n cynnal y prosiect.
“Wrth ymuno â’r rhaglen clefydau prin sy’n rhan o’r Prosiect 100,000 o Genomau, mae Cymru wedi rhoi ei hunan wrth galon chwyldro meddygaeth genomeg a fydd yn gwella canlyniadau i gleifion yn sylweddol,” meddai Prif Wyddonydd Genomics England, yr Athro Mark Caulfield.
“Fe fydd hefyd yn ysgogi mwy o ddarganfyddiadau cyffrous ac yn sbardun ar gyfer diwydiant genomeg a fydd yn ar flaen y gad ar lefel fyd-eang.”
‘Cyffrous ac arloesol’
Erbyn diwedd 2018, mae Prosiect 100,000 o Genomau am greu dilyniannau genom gan 100,000 o bobol ag afiechydon prin a dioddefwyr canser a’u teuluoedd.
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Cymru wedi ymuno â’r Prosiect 100,000 o Genomau,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.
“Drwy gydweithio â Genomics England, bydd cleifion ag afiechydon prin yng Nghymru yn gallu elwa ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn, sydd â’r potensial i ddod â diagnosis cyflymach, sy’n fwy cywir.”