Mae prif hyfforddwr rygbi Lloegr wedi beirniadu corff llywodraethu rygbi’r byd am ddweud y dylai Cymru fod wedi cael cais yn y gêm yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Fe allai hynny fod wedi ennill y gêm i Gymru ond, yn ôl Eddie Jones, does dim modd refferïo gêmau ar ôl iddyn nhw ddigwyddd ac mae angen i bawb anghofio’r helynt “a symud ymlaen”.
Ddoe fe gadarnhaodd World Rugby fod dyfarnwr fideo wedi gwneud camgymeriad trwy wrthod rhoi cais i Gareth Anscombe, cefnwr Cymru – yn hanner cynta’r gêm a enillodd Lloegr o 12-6.
“Camgymeriad” – datganiad World Rugby
“Mae World Rugby wedi cadarnhau wrth reolwyr tîm Cymru, fel rhan o’r broses adolygu, fod y dyfarnwr teledu wedi gwneud camgymeriad wrth weithredu’r ddeddf yn ystod y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham,” meddai llefarydd ar ran y corff rhyngwladol. Yn ôl deddf 21.1 b, fe ddylai Cymru fod wedi derbyn cais wrth i’r chwaraewr o Gymru dirio’r bêl.”
Roedd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi beirniadu’r penderfyniad yn union ar ôl y gêm a, ddoe, fe ddywedodd yr hyfforddwr ymosod Rob Howley fod y camgymeriad yn siom. Ond roedd Eddie Jones yn gwrthod cydnabod y cam.
“Allwch chi ddim refferïo werth edrych yn ôl ar benderfyniadau sydd wedi eu gwneud. Mae’r gêm wedi bod ac wedi mynd, felly rhaid i ni ymddiried yn y dyfarnwyr a pharchu eu gonestrwydd,” meddai.
Be ddigwyddodd
Yn ystod hanner cynta’r gêm, fe benderfynodd y dyfarnwr teledu yn Twickenham, Glenn Newman, nad oedd Gareth Anscombe wedi cyffwrdd y bêl yn iawn wrth iddo groesi’r llinell gais.
Cafodd y cais ei wrthod, ac fe arweiniodd hyn at fuddugoliaeth i Loegr dros y crysau cochion yn ail gêm pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan sicrhau na allai Cymru gael y Gamp Lawn na’r Goron Driphlyg.