Mae  myfyriwr a ddioddefodd ymosodiad difrifol yn Aberystwyth fis diwethaf, wedi ei drosglwyddo o’r uned gofal dwys ar ôl deffro o goma.

Mae Ifan Owens, 19, wedi bod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ers yr ymosodiad ar Ionawr 14.

Mae teulu’r myfyriwr wedi datgelu wrth golwg360 ei fod, erbyn hyn, wedi’i drosglwyddo o’r uned gofal dwys i ward gofal uchel wrth iddo wella.

“Anhygoel”

“Mae pethau wedi symud i’r gorau,” meddai tad y myfyriwr, Gareth Owens wrth golwg360. “Symud ymlaen yn sydyn iawn.”

“Anhygoel o beth i ddweud y gwir. Rydyn ni’n ymfalchïo fel teulu. Nid yn unig am ei wellhad, ond [hefyd am ofal gwasanaethau iechyd].”

Mae Gareth Owens yn tynnu sylw at swyddogion cyswllt teulu, staff yr uned gofal dwys, a staff Ysbyty Bronglais Aberystwyth (lle bu am gyfnod) ac yn eu canmol am eu gwasanaeth “anhygoel”.

Mae’n nodi bod Ifan Owens yn “hollol effro” ac yn medru mwmian, gwneud ystumiau, ac agor ei lygaid; ond mae’n cydnabod y bydd y broses o wella yn “broses hir iawn”.

Cefnogaeth syfrdanol”

Ers yr ymosodiad ym mis Ionawr mae pobol ledled Cymru, yn fyfyrwyr a phobl adnabyddus, wedi dymuno gwellhad i Ifan Owens.

Ymysg enwogion sydd wedi cyfleu cefnogaeth mae’r chwaraewr rygbi Jamie Roberts, y dyfarnwr Nigel Owens a chyflwynwyr rhaglen BBC Football Focus.

Yn ogystal â hynny mae deiseb ar-lein oedd yn anelu at godi £500 i deulu’r myfyriwr, wedi llwyddo i godi dros £6,500 hyd yn hyn.

“Mae’r gefnogaeth o bob rhan o’r wlad wedi bod yn anhygoel i ddweud y gwir – syfrdanol,” meddai Gareth Owens. “Mae’n helpu ni fel teulu.”

Bydd taith gerdded yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sul (Chwefror 18) er mwyn codi arian i Ifan Owens. Mae disgwyl y bydd cannoedd yn cymryd rhan.

Apêl am wybodaeth

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r ymosodiad ac yn awyddus i adnabod dyn a oedd wedi rhoi cymorth cyntaf i Ifan Owens cyn i’r parafeddygon gyrraedd.

Mae pum dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad – cafodd dau eu rhyddhau ar fechnïaeth a thri eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 402, neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar  0800 555 111.