Mae prif gyflwynydd rhaglenni prynhawn BBC Radio Cymru, Andrew ‘Tommo’ Thomas, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w waith gyda’r Gorfforaeth.
Mae’r darlledwr o Aberteifi wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru i wrandawyr y prynhawn ers 2014, gyda’i raglen o 2yp tan 5yp.
Bu mewn helynt y llynedd pan gafodd ei wahardd o’i waith am gyfnod yn sgil sylwadau a wnaeth yng Ngŵyl Nôl a Mân yn Llangrannog fis Gorffennaf.
Mewn neges ar Facebook yn gynharach heddiw, mae Andrew ‘Tommo’ Thomas yn dweud y byddai’n “ffarwelio” â BBC Radio Cymru ddiwedd mis Mawrth, cyn dechrau ar swydd newydd gyda’r cwmni radio lleol, Nation Broadcasting yn Ebrill.
Gyda’r cwmni hwnnw, fe fydd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11yb a 3yp, a fydd yn cael ei darlledu ar orsafoedd Radio Ceredigion, Radio Sir Gâr, Radio Sir Benfro a Bridge FM.
Bydd Ifan Jones Evans yn ei olynu yn cyflwyno rhaglenni’r prynhawn o ddydd Llun tan ddydd Iau.
“Ffrind da i Radio Cymru”
Dywedodd Golygydd BBC Radio Cymru Betsan Powys: “Mae Tommo wedi bod yn ffrind da i Radio Cymru ac fe fyddwn ni’n fythol ddiolchgar iddo am ei gwmni ac am godi gwên bob dydd.
“R’yn ni i gyd yn dymuno’n dda iddo gyda’i sioe newydd ac ar bennod newydd sbon ’swnllyd’ arall yn ei yrfa. Diolch, Tommo!”
“Blwyddyn anodd iawn”
Yn ei neges, dywed Tommo fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un “anodd iawn” iddo, ar ôl clywed bod ganddo ganser y croen, a gorfod delio â marwolaeth ei dad.
Bydd y swydd gyda Nation Broadcasting yn golygu y bydd dyn “y filltir sgwâr” yn gallu dychwelyd at ei “wreiddiau”, meddai.
“Mae sawl un yn gwybod mai ar radio lleol y dechreuais i fy ngyrfa ddarlledu, gan feithrin y sgiliau roddodd gyfle i fi fentro ymhellach i ddarlledu ar radio cenedlaethol,” meddai Tommo.
“Felly pan ddaeth cyfle unigryw yn ddiweddar i fynd yn ôl i ngwreiddie, roedd y gwahoddiad yn un na allwn ei wrthod.”
Gorffen mewn “cyfnod cadarnhaol”
“Mae’n galondid gwbod fod ffigurau gwrando’r orsaf yn codi’n raddol o hyd, diolch i arweiniad y golygydd Betsan Powys a’i thîm gweithgar,” meddai wedyn.
“Dw i’n gadael, felly, ar gyfnod cadarnhaol, gyda ffigurau’r rhaglen a rhai’r orsaf yn cynyddu, a dw i wir yn dymuno’n dda nid yn unig i’r orsaf i’r dyfodol, ond hefyd i’r sawl fydd yn fy nilyn i gyflwyno rhaglen y prynhawn ar Radio Cymru.”
Mi fydd ei raglen olaf ar Radio Cymru yn cael ei darlledu ddydd Iau, Mawrth 29.