Mae Julie Morgan AC, gweddw’r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi cyhoeddi ei bod yn y ras i fod yn Ddirprwy Arweinydd Llafur Cymru.

Dan reolau newydd y blaid, mae’n rhaid i naill ai’r arweinydd neu’r dirprwy arweinydd fod yn fenyw.

Hyd yn hyn, dim ond Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, a Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd yn y ras.

Wrth gyhoeddi ei hymgeisyddiaeth, mae Julie Morgan wedi postio fideo ar-lein, gyda’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn datgan ei fod yn ei chefnogi.

Yn y fideo, mae Jane Hutt AC, Mick Antoniw AC a Jenny Rathbone AC hefyd yn dweud eu bod yn ei chefnogi.

Mae’r cyfnod pleidleisio yn dechrau ar 18 Mawrth ac mae disgwyl i’r enillydd gael ei gyhoeddi pan fydd Llafur Cymru yn cynnal ei chynhadledd wanwyn rhwng 21 a 22 Ebrill.