Mae’r sector breifat yn parhau yn gyndyn o ddefnyddio a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn ôl darlithydd busnes o Brifysgol Bangor.
Daw sylw David James ar Ddydd Miwsig Cymru, sef diwrnod i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg – achlysur sydd yn cael ei gefnogi gan gwmnïau EE a Co-op eleni.
Mae David James yn derbyn bod y diwrnod “yn sicr” yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at godi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg.
Ond pryder y darlithydd yw bod Comisiynydd y Gymraeg yn “ddiddannedd” gyda’r sector breifat yn y tymor hir.
“Beth sydd yn drueni ydy bod y sector breifat ddim yn arddel y Gymraeg mor eang ag y mae yn rhaid i’r sector gyhoeddus,” meddai David James wrth golwg360.
“Rydw i yn byw yn y rhan yma, lle mae Cyngor Gwynedd wedi bod â pholisi dwyieithog a Chymraeg – maen nhw wedi dangos arweiniad. Ond dydy pob busnes yn y sector breifat ddim yn dilyn eu hesiampl nhw.
“Beth sy’n broblem ydy bod y rhan fwyaf o’r cwmnïau yn Brydeinig â’u pencadlys yn Lloegr – cwmnïau Seisnig mewn ffordd. A dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod yna iaith Gymraeg ar waith.”
Hyrwyddo
Pan ddaw at y mater o fesur llwyddiant Dydd Miwsig Cymru, mae David James yn credu ei bod yn “anodd dweud” os yw yn llwyddo.
“Efo unrhyw ymgyrch hyrwyddo, hysbysebu er enghraifft, mae’n andros o anodd mesur [llwyddiant],” meddai. “Mae pobol yn y byd marchnata efo’r broblem yna wastad.
“Fel dywedodd Henry Ford: ‘Dydy 50% o hysbysebu ddim yn gweithio’. Ond pa 50%?”
Mae golwg360 wedi gofyn i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ymateb.