Mae cylchgrawn Golwg wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond dau o blith 20 o awduron sy’n cael £3,000 yr un o arian cyhoeddus er mwyn datblygu eu gwaith sydd am wneud hynny yn yr iaith Gymraeg.
Ac yn ôl Cadeirydd y Panel fu’n rhannu’r arian, mae’r sefyllfa yn ‘drueni gwirioneddol’.
Y corff Llenyddiaeth Cymru sy’n rhoi’r grantiau, a hynny dan eu cynllun Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora.
Cafwyd 110 o geisiadau am arian, a dim ond saith gan awduron Cymraeg. Ni chafwyd yr un cais gan fardd Cymraeg ei iaith.
‘Trueni gwirioneddol’
Yn ôl Cadeirydd Panel yr Ysgoloriaethau mae’n ‘drueni gwirioneddol’ nad oedd rhagor o lenorion Cymraeg wedi ymgeisio eleni.
‘O ystyried bywiogrwydd y sin lenyddol Gymraeg,’ meddai Sioned Williams yn ei hadroddiad, ‘a adlewyrchir gan fentrau cyffrous fel cylchgrawn Y Stamp, podlediad Clera a disgleirdeb enillwyr eisteddfodau lleol a chenedlaethol, mae’n drueni gwirioneddol nad oes mwy o lenorion Cymraeg, yr ifanc yn enwedig, yn elwa ar y gefnogaeth werthfawr y gallai Ysgoloriaeth gynnig iddynt. Ni ddaeth yr un cais gan fardd Cymraeg eleni.’
Y ddau Gymraeg
Y ddau o’r 21 llwyddiannus a fydd yn datblygu gwaith Cymraeg yw Iwan Huws, canwr Cowbois Rhos Botwnnog, sy’n bwriadu cyhoeddi nofel ffantasi i bobol ifanc, a Siôn Tomos Owen sydd am gyhoeddi nofel llawn lluniau – graphic novel – am y Rhondda.
Ymateb Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn pwysleisio bod dau o’r pedwar sydd wedi cael eu derbyn ar y Cynllun Mentora Estynedig i awduron newydd eleni hefyd yn bwriadu sgrifennu yn Gymraeg – sef Euros ap Hywel a Rhiannon Williams.
Serch hynny, mae’r corff yn barod i “adleisio” sylwadau Sioned Williams, gan ddweud mai “da fyddai gweld rhagor o lenorion Cymraeg yn gwneud cais am Ysgoloriaeth a Mentora er mwyn elwa ar y gefnogaeth werthfawr y gallai’r cynlluniau eu cynnig iddynt”.
Y stori lawn gan Non Tudur yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.