Dylwn ni ddim anelu at greu Cymru annibynnol â Chaerdydd wrth ei graidd, yn ôl athro o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.

Er bod Calvin Jones yn frwd o blaid datganoli bellach o fewn y Deyrnas Unedig, mae ganddo berthynas gymhleth â’r ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru.

“Heb os nac oni bai,” meddai, “byddai Cymru yn dlotach pe byddai’n wlad annibynnol”. Ac mae’n rhybuddio mai “lleihad sylweddol mewn lles materol” fyddai un o oblygiadau annibyniaeth.

Ond, mae hefyd yn dweud bod y sustem Brydeinig yn “ddiffygiol”. Ei ddadl yw y dylai datganoli gael ei weithredu yn ddyfnach na ffiniau cenedlaethol.

“Dw i’n bendant o blaid mwy o ddatganoli o fewn y sustem Brydeinig, ond dydyn ni’n methu cymryd yn ganiataol mai Cymru yw’r lefel orau i ddatganoli iddi,” meddai wrth golwg360.

“Er enghraifft, fe hoffwn i weld polisi economaidd ar lefel y ddinas. Dw i ddim yn meindio os oes yna genedl-wladwriaeth o’r enw Cymru sydd yn datganoli polisi economaidd i lefel is.”

Agosach i’r bobol

Mae Calvin Jones yn dadlau y byddai polisi economaidd i Gymru yn methu os byddai’n cael ei rheoli o Gaerdydd, yn rhannol oherwydd y pellter daearyddol o ogledd o orllewin Cymru.

“Mae’n rhy bell i ffwrdd, ac mae Cymru mor amrywiol yn economaidd, mae angen lefel o ddatganoli sy’n agos iawn i’r bobol fel bod pethau’n gweithio.”

Bu Calvin Jones yn cynnal trafodaeth tros y mater hwn, mewn digwyddiad ‘Llafur dros Gymru Annibynnol’ yng Nghaerdydd prynhawn ddoe (Chwefror 7).