Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cyhuddo cyrff cadwraeth o anwybyddu effaith moch daear ar ddraenogod – ac o drin ffermwyr fel “bwch dihangol” am ddirywiad yn eu niferoedd nhw.
Maen nhw wedi ymateb yn gryf i adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, gyda Chymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain yn nodi fod niferoedd y creadur wedi haneru yng nghefn gwlad ers 2000.
Maen nhw’n rhoi tipyn o’r bai ar newid mewn dulliau ffermio ac ar leihad mewn gwrychoedd a chloddiau, ond mae’r ffermwyr yn beio moch daear.
Barn y ffermwyr
“Trwy anwybyddu’r gwirionedd amhleserus bod moch daear yn bwyta draenogod … a thrwy drin ffermwyr fel bwch dihangol, mae cyrff cadwraeth yn gwneud anghymwynas â draenogod a chadwraeth,” meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.
Mae’n dadlau bod twf niferoedd moch daear wedi cael effaith “catastroffig” ar niferoedd draenogod, a bod “llawer o dystiolaeth wyddonol” am eu heffaith.
Barn y mudiad amgylchedd
“Mae yna sawl rheswm pam bod draenogod mewn trwbl,” meddai Emily Wilson, swyddog draenogod i fudiad Hedgehog Street.
“Amaethyddiaeth ddwysach sydd wedi arwain at lai o wrychoedd a glaswelltiroedd parhaol, caeau mwy, a defnydd o blaladdwr sydd yn lleihau’r nifer o ysglyfaethau sydd ar gael.”