Mae Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth wedi bod yn rhedeg ar golled am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Mae adroddiad gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016/17 yn dangos bod y ganolfan wedi gwneud colledion o tua £201,000, er gwaetha’r cynnydd mewn incwm a lefelau costau’n gostwng.
Mae hyn o gymharu â’r £467,000 o golled a wnaed yn 2015/16; £197,000 yn 2014/15; a £263,000 yn 2013/14.
Roedd y cyfrifon yn dangos bod incwm y ganolfan wedi cynyddu o bron £250,000 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – o £3,043,000 yn 2016 i £3,300,000 yn 2017.
Roedd lefelau costau wedi gostwng o £3,524,000 i £3,501,000.
Cyfarwyddwr newydd
Dim ond yr wythnos ddiwethaf y cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth fod un o gyn-Gyfarwyddwyr Cynnwys S4C, sef Dafydd Rhys, wedi cael ei benodi’n gyfarwyddwr newydd ar y ganolfan, gan olynu Gareth Lloyd Roberts yn y swydd.
Wrth gael ei benodi, dywedodd Dafydd Rhys mai ei fwriad yw “adeiladu ar seiliau cadarn”, a’i fod yn edrych ymlaen i gychwyn ar “bennod newydd gyffrous” i’r ganolfan.
Ymateb Prifysgol Aberystwyth
“Mae’r cyfrifon ariannol diweddaraf yn dangos bod y diffyg yn sylweddol is na’r flwyddyn ariannol flaenorol ac rydym yn parhau i weithio tuag at ganlyniadau ariannol cynaliadwy.
“Mae Canolfan y Celfyddydau wedi cynnal ystod o gynyrchiadau llwyddiannus yn ystod y misoedd diwethaf ac rydym yn buddsoddi yn y dyfodol, gyda sinema sydd newydd ei hadnewyddu a chynlluniau ar gyfer uwchraddio sylweddol i systemau trydan Theatr y Werin.
“Wrth i ni gynllunio at y dyfodol, mae ein tîm ymroddedig o staff yn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd o bell ac agos i fwynhau rhaglen ragorol arall o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Ganolfan.”