Mae yn bosib y bydd un o Aelod Cynulliad UKIP yn cael ei gwahardd o’r Senedd ym Mae Caerdydd am wythnos heb gyflog, a hynny wedi iddi wneud sylw hiliol am Aelod Seneddol Llafur.
Mae Pwyllgor Safonau’r Cynulliad wedi argymell y dylai Aelodau Cynulliad gynnal pleidlais tros wahardd Michelle Brown, wedi iddi ddod i’r amlwg ei bod wedi galw Chuka Umunna yn “gneuen coco”.
Fe wnaeth yr Aelod Cynulliad y sylw wrth siarad ar y ffôn gyda’i chyn cyd-weithiwr, Nigel Williams.
Mae argymhelliad y Pwyllgor Deisebau ac adroddiad y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, sydd ddim eto’n gyhoeddus, wedi’i roi yn nwylo’r BBC.
Y penderfyniad
Ond mae cofnodion y cyfarfod yn dangos bod y cadeirydd – Jayne Bryant AC Llafur – wedi esgusodi ei hun rhag y dyfarniad am mai’r grŵp Llafur yn y Cynulliad oedd wedi gwneud cwyn swyddogol yn erbyn Michelle Brown.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan aelodau eraill y pwyllgor – Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru, Paul Davies o’r Ceidwadwyr a Gareth Bennett – sy’n eistedd yn yr un grŵp â Michelle Brown, UKIP.
Mae UKIP wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw ar y mater ac yn ôl llefarydd ar ran Michelle Brown, mae hi’n bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.