Mi fydd taith gerdded yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ymhen pythefnos er mwyn codi arian i ddyn ifanc a gafodd niwed yn dilyn ymosodiad yn y dref fis diwethaf.

Fe gafodd Ifan Owens o Gaerdydd ei ddarganfod yn anymwybodol ar Stryd Uchel y dref am tua 2:20 ar fore Sul, Ionawr 14.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae golwg360 yn deall ei fod yn parhau mewn cyflwr difrifol.

“Aber yn dal i fod yn lle saff”

 Mae’r daith, ‘Aber dros Ifan’, wedi’i threfnu ar y cyd rhwng Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Cymdeithas y Geltaidd a thrigolion y dre’, ac fe fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul, Chwefror 18 – ychydig dros fis ers y digwyddiad.

Fe fydd y daith yn cychwyn yn Neuadd Pantycelyn, gan fynd o amgylch y dref a gorffen yn y stondin band ger y traeth.

“Bwriad y daith yw cael pobol i ddeall bod Aber yn dal i fod yn lle saff a diogel i bobol ar y funud,” meddai Elen Williams, Llywydd Cymdeithas y Geltaidd.

“Mae pawb wedi cael sioc ar yr ochr orau o ba mor gefnogol mae pobol aelod o’r Geltaidd wedi bod, ac mae gyda ni gwpwl o ddigwyddiadau sydd ar fin cael eu trefnu i godi arian a chefnogi teulu Ifan.”

Mae’r trefnwyr wedi estyn gwahoddiad i’r Aelod Seneddol lleol, Ben Lake, annerch y dorf, ac maen nhw’n gobeithio derbyn cefnogaeth gan fandiau Cymraeg a fydd yn mynd i Seremoni Gwobrau Selar yn ystod yr un penwythnos.

Mi fydd y daith yn cychwyn am dri’r p’nawn.