Mae mab y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn benderfynol o barhau â’r gwaith yr oedd ei dad mor angerddol drosto, wrth iddo ymladd am sedd Alyn a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad.
Yn ôl Jack Sargeant, 23, mae wedi penderfynu sefyll yn enw’r Blaid Lafur am fod gwerthoedd y blaid yn bwysig iddo ef a’i deulu.
Ymhen llai na phythefnos, ar Chwefror 6, bydd isetholiad yn cael ei gynnal – a hynny dri mis union ers dod o hyd i gorff Carl Sargeant yn farw.
Dros baned yng Nghei Conna, mae Jack Sargeant yn dweud ei fod yn canolbwyntio ar werthoedd y Blaid Lafur leol wrth ymgyrchu, a bod hynny’n golygu dechrau “o le dechreuodd Dad.”
“Rydan ni’n edrych yn ôl ar le dechreuodd Dad, ac yn edrych yn ôl ar y Blaid Lafur leol, a chredoau’r gymuned.
“Gwerthoedd Llafur ydyn nhw, maen nhw’n werthoedd mae fy nheulu i wastad wedi’u cael. Cyn Dad, roedd tad fy mam yn bwysig yn y Blaid Lafur leol…
“Maen nhw’n werthoedd dw i’n eu harddel,” meddai. “Gofalu am bobol sy’n methu gofalu amdanyn nhw’u hunain… dyma’r ffordd mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd.
“Llafur ydan ni wastad wedi bod fan hyn, mae ganddon ni dîm cryf yma, ac felly dw i’n credu ei bod hi’n iawn fy mod i’n sefyll fel yr ymgeisydd Llafur, yn union fel roedd Dad… yn canolbwyntio ar y gwerthoedd craidd hynny y cefais i fy magu efo nhw.”
Penderfyniad anodd
Mae’r penderfyniad i sefyll yn enw’r blaid Lafur wedi bod yn “anodd”, meddai Jack Sargeant, o gofio bod ei dad yn destun ymchwiliad pan fu farw, a bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi’i wahardd o’r angladd.
Roedd sefyll o gwbwl yn gam mawr i Jack Sargeant, 23. Ond mae cefnogaeth ei fam, Bernie, a’i chwaer, Lucy, yn allweddol.
Wrth baratoi am yr wythnos a hanner olaf o ymgyrchu a’r posibilrwydd o gael ei ethol, mae Jack Sargeant yn dweud mai pobol Cei Connah a’r ardal ydi ei flaenoriaeth.
Yr ymgeiswyr eraill yw Sarah Atherton dros y Ceidwadwyr Cymreig; Carrie Harper dros Blaid Cymru; Donna Lalek dros y Democratiaid Rhyddfrydol; a Duncan Rees dros y Blaid Werdd.
Penodi cyfreithiwr i arwain ymchwiliad
Brynhawn Mercher (Ionawr 24), daeth y cyhoeddiad bod teulu Carl Sargeant wedi cytuno i benodi’r Cwnsler Paul Bowen i gadeirio’r ymchwiliad annibynnol yn edrych ar y ffordd wnaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddelio â’r honiadau yn erbyn yr Aelod Cynulliad.
Yn ôl llefarydd ar ran y teulu, maen nhw’n gobeithio y gall yr ymchwiliad ddechrau mor fuan â phosib a bod y cylch gorchwyl yn destun trafodaeth gan gyfreithwyr ar hyn o bryd.