Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cadarnhau bod 180 o gleifion o fewn yr ardal wedi diodde’ o’r ffliw eleni – a bod lle i gredu y gallai tua dwsin ohonyn nhw fod wedi marw â’r feirws.
Ers ddydd Gwener (Ionawr 19) mae tua 40-50 achos newydd o ffliw wedi cael eu cadarnhau gan y Bwrdd Iechyd yn ysbytai Treforys, Singleton, Tywysoges Cymru a Chastell Nedd Port Talbot.
O’r deuddeg a fu farw, bu farw naw yn yn ysbytai’r Bwrdd Iechyd, a’r tri arall gartref.
Mae’r awdurdod wedi cadarnhau bod y ffliw wedi cyfrannu at ambell un o’r marwolaethau yma, ond dyw hi ddim yn glir os oedd y firws yn gyfrifol am bob achos.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd mae’n “debygol” y bydd lefelau’r ffliw yn parhau’n uchel tros yr wythnosau nesaf.