Mae tlodi plant yn “gyffredin” ledled y wlad, gyda thros chwarter plant Cymru yn byw mewn tlodi, yn ôl ystadegau newydd.
Ond mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf yn y brifddinas, gydag un o bob tri o blant Caerdydd yn byw mewn tlodi.
Yn ôl ffigurau gan gynghrair End Child Poverty mae tua un o bob pedwar (28%) o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gydag un o bob tri yn byw mewn amodau sy’n cael eu disgrifio fel rhai “anffafriol”.
Ardaloedd yn ne a gorllewin Cymru sydd â’r cyfraddau uchaf o dlodi, gyda Chaerdydd, Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ymysg y gwaethaf.
“Trafferth ymdopi”
“Unwaith eto, mae ffigurau yn dangos bod tlodi plant yn gyffredin mewn pob rhan o Gymru gyda nifer cynyddol o blant yn cael trafferth ymdopi,” meddai Sean O’Neill, Swyddog Polisi y mudiad Plant yng Nghymru.
“Rhaid i lywodraethau ar bob lefel sicrhau eu bod yn mynd ati ar frys i warchod teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth darparu adnoddau i’w plant.”
Tabl
- Caerdydd: 32.85%
- Blaenau Gwent: 32.12%
- Casnewydd: 31.75%
- Merthyr Tudful: 29.82%
- Sir Gâr: 29.64%
- Castell Nedd Port Talbot: 28.97%
- Ceredigion: 28.86%
- Sir Benfro: 28.64%
- Torfaen : 28.50%
- Pen y Bont ar Ogwr: 28.29%
- Abertawe: 28.23%
- Rhondda Cynon Taf: 28.08%
- Caerffili: 27.97%
- Sir Ddinbych: 27.33%
- Ynys Môn: 27.24%
- Conwy 26.70%
- Wrecsam: 25.39%
- Gwynedd: 24.68%
- Sir y Fflint: 23.71%
- Morgannwg: 23.51%
- Powys: 22.44%
- Sir Fynwy: 21.62%